Beth i'w wneud gyda
TYBIAU A HAMBYRDDAU PLASTIG

Ble gallaf i ailgylchu? »
Yn gynyddol, mae deunyddiau pacio plastig fel potiau, tybiau a hambyrddau yn cael eu derbyn fel rhan o gynlluniau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae casgliadau ar gyfer yr eitemau hyn yn amrywio ar draws y wlad, felly gwiriwch â’ch cyngor yn y lle cyntaf.
Os yw eich cyngor yn derbyn yr eitemau hyn, fel arfer byddant yn cynnwys:
- Potiau iogwrt;
- Potiau/tybiau bwyd ar gyfer cawl, nwdls a chacennau;
- Tybiau sy’n cynnwys nwyddau glanhau fel codwyr staenau a glanedyddion;
- Hambyrddau cig;
- Tybiau margarîn;
- Cynhwysyddion prydau parod;Cynhwysyddion fel basgedi sy’n dal ffrwythau/llysiau, fel madarch neu rawnwin Cynhwysyddion gel gwallt;
- Potiau hufenau’r wyneb neu’r corff.
Sut i’w hailgylchu...
- Rinsiwch eitemau’n sydyn gan ddefnyddio dŵr golchi llestri sydd dros ben;
- Gwasgwch yr eitemau (lle bo hynny’n briodol) - mae’n arbed lle yn eich bin ailgylchu! Peidiwch â chynnwys caeadau ffilm blastig na Clingfilm.
Sylwch:
- Ni ellir ailgylchu mathau eraill o botiau a thybiau plastig, fel potiau blodau, gartref; fodd bynnag, weithiau gallwch eu hailgylchu mewn canolfannau gwastraff y cartref ac ailgylchu. Yr opsiwn gorau ar gyfer y mathau hyn o dybiau yw dod o hyd i arddwr brwd a fydd yn gallu eu defnyddio! Fel arall, efallai y bydd grŵp rhandiroedd lleol yn gallu eu defnyddio – cysylltwch â’r Gymdeithas Randiroedd Genedlaethol neu eich cyngor lleol i gael manylion eich grŵp lleol.
Beth arall gallaf ei wneud â nhw?
Gall potiau, tybiau a hambyrddau plastig fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cadw manion – o glipiau papur, i emwaith, i binnau ysgrifennu a phensiliau!