Beth i'w wneud gyda
TUNIAU BWYD A CHANIAU DIOD

Hefyd: tuniau bwyd anifeiliaid anwes a thuniau bwyd mwy, fel rhai sy’n cynnwys fferins/losin a bisgedi.
Ble gallaf i ailgylchu? »
- Fel arfer, gallwch ailgylchu tuniau bwyd a chaniau diod yn eich casgliad ailgylchu gwastraff y cartref neu yn eich canolfan ailgylchu lleol;
- Mae tuniau bwyd a chaniau diod wedi’u gwneud o ddur neu alwminiwm. Mae’r ddwy eitem hon yn hollol ailgylchadwy ac mae modd eu hailbrosesu dro ar ôl tro heb golli eu hansawdd.
I ddarganfod sut mae caniau’n cael eu hailgylchu, edrychwch ar yr animeiddiad hwn yn sydyn:
Sut dylwn i ailgylchu caniau bwyd?
|
AWGRYM:
Tynnwch y caead yn gyfan gwbl wrth i chi agor y tun. Gwagwch y cynhwysion ac yna rinsiwch y tun. Gall yr ymylon fod yn finiog, felly rhowch y caead yn ofalus y tu mewn i waelod y tun, yna gwasgwch y tun ychydig bach fel nad yw’r caead yn disgyn allan.
'Every Can Counts'
I’n helpu i ailgylchu ein diodydd pa le bynnag yr ydym ni – p’un a ydym yn y gwaith, yn y coleg, mewn digwyddiad neu ŵyl neu ar grwydr, mae ymgyrch 'Every Can Counts' (Saesneg yn unig) yn gweithio’n galed ag ystod o sefydliadau i ddarparu cyfleusterau ailgylchu caniau diod.
Oeddech chi’n gwybod bod un o bob tri o ganiau diod sy’n cael eu gwerthu yn y DU yn cael eu hyfed oddi cartref? Gellir ailgylchu’r metel y mae’r caniau hyn wedi’u gwneud ohono dro ar ôl tro, felly mae’n bwysig ei fod yn cael ei arbed yn hytrach na’i daflu. Yn enwedig wrth i chi ystyried y gallai pob can gael ei ailgylchu a’i ailwerthu fel can arall ymhen 60 diwrnod yn unig.