Beth i'w wneud gyda
TIWBIAU PLASTIG
Mae tiwbiau plastig, e.e. y rhai sy’n dal hylif ac eli dwylo, yn cael eu gwneud yn gynyddol o blastigion y gellir eu hailgylchu. Felly, os yw eich awdurdod lleol yn casglu potiau a thybiau, gallwch gynnwys tiwbiau fel arfer. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau!
- Tiwbiau a oedd yn cynnwys deunyddiau DIY fel mastig – gall olion y deunydd fod yn niweidiol a halogi’r ailgylchu, felly dylid eu rhoi yn y bin gwastraff gweddilliol.
- Tiwbiau past dannedd – mae’r tiwbiau hyn yn aml wedi’u gwneud o wahanol fathau o blastig, ynghyd â haen o fetel (i gadw’r blas mintys ffres!). Fel arfer, ni ellir eu hailgylchu, er bod rhywfaint o arloesi yn y maes, yn cynnwys Colgate; mae Terracycle yn cynnig cynllun ailgylchu ar gyfer nwyddau gofal ceg. Mae tiwbiau past dannedd gyda phwmp yn haws i’w hailgylchu a gellir eu rhoi yn eich ailgylchu os yw eich awdurdod lleol hefyd yn casglu potiau a thybiau plastig.
- Mae’n annhebygol y caiff eitemau plastig sy’n llai na 40 x 40mm o faint eu hailgylchu gan eu bod yn disgyn allan o’r broses ailgylchu yn ystod cam sydd wedi’i gynllunio i gael gwared â darnau bach o faw a halogiad.
Darganfodwch beth allwch chi'n ailgylchu cartref