Beth i'w wneud gyda
TEILS (LLAWR A WAL)
Ble gallaf i ailgylchu? »
Nid yw teils llawr a wal yn cael eu casglu fel rhan o gynllun ailgylchu gwastraff y cartref eich cyngor; fodd bynnag, gallwch fynd â nhw i’ch canolfan gwastraff y cartref ac ailgylchu leol, fel arfer.
Os oes gennych chi deils dros ben o brosiect neu os ydych wedi llwyddo i dynnu eich hen deils heb eu torri, ystyriwch yr opsiynau canlynol:
Pasiwch nhw ymlaen...
Ar-lein
- Ewch ar-lein i wefannau fel Freecycle a Freegle i’w rhoi’n rhad ac am ddim;
- Rhowch gynnig ar hysbysebu’r deunyddiau adeiladu sydd gennych dros ben ar wefannau fel eBay neu Gumtree.
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau i weld a oes eu hangen arnynt ar gyfer unrhyw brosiectau adeiladu sydd ganddynt yn yr arfaeth;
- Gwiriwch yn lleol – efallai y gall prosiect cymunedol yn eich ardal leol ddefnyddio eich manion adeiladu;
- Hysbysebwch mewn papurau newydd lleol, ffenestri siopau neu ar hysbysfyrddau cymunedol.
Ailgylchwch nhw...
- Os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw un i’w cymryd, gallwch gael gwared ar eich teils yn eich canolfan ailgylchu leol;
- Bydd angen i chi eu gludo eich hun. Cysylltwch â’r ganolfan ailgylchu i gael gwybod beth yw’r oriau agor, sy’n gallu amrywio ar gyfer ceir a faniau;
- Os ydych chi’n mynd â’r teils mewn fan, gwiriwch â’r ganolfan ailgylchu a oes angen unrhyw ganiatâd neu ddull adnabod arnoch i wneud hynny;
Beth arall gallaf ei wneud?
- Os oes gennych chi lawer o deils i gael gwared arnynt, gallwch drefnu i gwmni gwaredu gwastraff trwyddedig ddod â sgip neu fag mawr i’ch cartref i gael gwared arnynt.