Beth i'w wneud gyda
TEGANAU A GEMAU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Ni fydd eich canolfan ailgylchu lleol yn derbyn teganau i’w hailgylchu, ac ni ellir eu casglu fel rhan o’ch cynllun ailgylchu gwastraff y cartref.
Os nad oes modd trwsio eich teganau, gall fod yn bosibl ailgylchu rhai o’r darnau plastig neu fetel o hyd, os byddwch yn eu tynnu’n ddarnau.
Beth arall gallaf ei wneud â nhw?
- Os yw eich teganau mewn cyflwr da, gallech chi roi cynnig ar eu gwerthu trwy eu hysbysebu yn eich papurau newydd lleol/ar hysbysfyrddau cymunedol. Hefyd, gallech chi roi cynnig ar eu gwerthu ar wefannau felFreecycle, Freegle neu eBay;
- Gallwch fynd â theganau sydd mewn cyflwr da i siop elusen, ffair sborion neu arwerthiant cist car hefyd;
- Rhowch deganau i eglwys, cylch chwarae neu ysbyty lleol – gwiriwch beth sy’n addas i’w hanghenion yn gyntaf;
- Gallai ffrindiau, perthnasau neu gymdogion â phlant ifanc eu gwerthfawrogi hefyd;
- Edrychwch ar-lein i weld a oes llyfrgell deganau leol yn eich ardal chi - mae angen teganau a gemau o ansawdd da arnynt i’w benthyg i’w haelodau;
- Ceisiwch gadw’r wybodaeth ddiogelwch ac unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer y tegan/gêm. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os byddwch yn rhoi’r tegan i ffrindiau, perthnasau neu siop elusen.