Beth i'w wneud gyda
PLISG WYAU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Mae Cymru gyfan yn rhan o gynllun casglu gwastraff bwyd wythnosol. Gall plisg wyau gael eu cynnwys yn y cynllun hwn. Gallwch roi plisg wyau eich bin compostio yn eich gardd hefyd (os oes gennych un).
Defnyddiau eraill:
- Gwnewch wal o blisg wyau wedi’u malurio o gwmpas eich planhigion i gadw gwlithod, malwod a lindys draw;
- Rhowch blisg wyau yn eich bin compost - Os nad oes gennych fin compost ar hyn o bryd, edrychwch ar ein canllaw ar sut i greu un. Mae gennym restr hwylus o eitemau y gallwch eu rhoi ynddo a rhai na allwch eu rhoi ynddo hefyd. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru’n gweithredu cynllun i brynu biniau compost am bris isel. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod pryd mae’r arwerthiant nesaf.