Beth i'w wneud gyda
PLASTIGION COMPOSTADWY
Ni ddylid rhoi plastigion compostadwy yn eich ailgylchu plastig gan nad oes modd eu hailgylchu yn yr un ffordd. Maent wedi’u dylunio i dorri i lawr dan amodau compostio penodol iawn yn hytrach na chael eu hailgylchu.
Gall plastigion compostadwy naill ai fod yn addas i’w compostio gartref neu mewn compostiwr diwydiannol. Gallwch edrych ar y pecyn, gan y dylai hwnnw nodi pa un – darllenwch fwy am y labeli i chwilio amdanynt.
Mae angen rhoi plastigion y gellir eu compostio’n ddiwydiannol (e.e. rhai bagiau leinio cadis compost) mewn cadi bwyd sy’n mynd i’w gompostio, neu gyda gwastraff o’r ardd; ond nid yw’r opsiwn hwn ar gael i bawb ac ar hyn o bryd nid oes gennym mo’r seilwaith ailgylchu yn y Deyrnas Unedig i ymdopi â hyn ar raddfa eang.
Gofynnwch i’ch awdurdod lleol i gael gwybod beth i’w wneud gyda phlastigion ar gyfer compostio diwydiannol yn eich ardal chi.
Gellir rhoi plastigion sydd wedi’u labelu fel rhai compostadwy in eich bin neu tomen gompost gartref - darllenwch fwy am compostio yn y gartref yma.