Beth i'w wneud gyda
OFFER CREFFTAU’R CARTREF

Ble gallaf i ailgylchu? »
Ei werthu!
- Os ydych yn cael gwared ar offer crefftau’r cartref diangen sy’n gweithio, rhowch gynnig ar ei werthu ar Gumtree, yn eich papur newydd lleol, mewn arwerthiannau cist car.
Ei roi neu ei gyfnewid!
- Holwch ffrindiau, perthnasau, cydweithwyr neu gymdogion i weld a allant ddefnyddio eich ysgol, llif neu fwrdd pastio;
- Cadwch olwg am ddigwyddiadau cyfnewid lleol. Gallech chi fynd ar-lein hyd yn oed a’u rhoi’n rhad ac am ddim;
- Os hoffech chi gael gwared arno’n gyflym, gallwch ei hysbysebu’n rhad ac am ddim ar Gumtree.
- Rhowch gynnig ar roi eich offer i siop elusen, sefydliad ailddefnyddio dodrefn neu brosiect cymunedol lleol. Chwiliwch ar y rhyngrwyd neu cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i’ch sefydliad ailddefnyddio agosaf. Gwiriwch fod y sefydliad yn derbyn y math hwn o eitemau’n gyntaf bob tro.
Yn aml, gall offer na all unrhyw un arall ei ailddefnyddio gael ei ailgylchu, yn enwedig eitemau sydd wedi’u gwneud o bren a metel.
Sut dylwn i ei ailgylchu?
- Yn aml, gall dodrefn pren a metel gael eu hailgylchu yn eich canolfan ailgylchu leol.