Beth i'w wneud gyda
GWELYAU ANIFEILIAID

Mae gwahanol fathau o welyau anifeiliaid ac mae angen cael gwared arnynt mewn ffyrdd gwahanol.
Ble gallaf i ailgylchu? »
Gall blancedi, tywelion a gwelyau anifeiliaid a wnaed o ffabrig - gael eu hailgylchu mewn mannau ailgylchu tecstilau; ond os yw gwely eich ci wedi’i wneud o blastig, er enghraifft, bydd angen i chi fynd ag ef i’ch canolfan ailgylchu leol.
Gall gwair a blawd llif sydd wedi baeddu o gutiau cwningod a moch cwta - gael eu hychwanegu at y rhan fwyaf o’r cynlluniau casglu gwastraff yr ardd sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau. Fel arall, gallech fynd â nhw i ganolfan ailgylchu sy’n derbyn gwastraff yr ardd.
- Gall hen flancedi neu welyau a wnaed o ffabrig gael eu hailgylchu â thecstilau mewn canolfan ailgylchu
- Gall gwair, gwellt a blawd llif a ddefnyddiwyd gan anifeiliaid ‘llysfwytäol’, fel cwningod neu foch cwta, gael eu rhoi yn eich casgliad gwastraff yr ardd (os yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig yn eich ardal chi)
- Fel arall, gallech fynd â nhw i ganolfan ailgylchu (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘dip’) a’u hailgylchu â gwastraff yr ardd. Gall gwair, gwellt a blawd llif gael eu hychwanegu at eich bin compost gartref hefyd
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriach â’ch cyngor lleol bob tro.
Beth am wastraff anifeiliaid?
- Dylai gwastraff anifeiliaid anwes, fel torllwyth cathod, gael ei roi mewn bag a’i roi yn y bin gwastraff cyffredinol.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriach â’ch cyngor lleol bob tro.