Beth i'w wneud gyda
GEMAU ELECTRONIG

Ble gallaf i ailgylchu? »
Gall teganau a gemau trydanol neu electronig gael eu hailgylchu yn eich canolfan ailgylchu leol ond, os ydynt mewn cyflwr da o hyd, ystyriwch eu rhoi i bobl eraill...
Pasiwch nhw ymlaen…
Sefydliadau cymunedol ac elusennau
Oherwydd bod cyfyngiadau ar fusnesau’n gwerthu eitemau trydanol ail-law, dim ond sefydliadau sy’n gallu darparu gwiriadau diogelwch digonol a fydd yn derbyn gemau a theganau sydd mewn cyflwr da i’w hailddefnyddio ac/neu eu hailgylchu.
Cyn i chi roi’r eitemau hyn, gwnewch yn siwr y gallant eu derbyn.
- Lle y bo’n bosibl, ceisiwch gadw’r deunydd pacio gwreiddiol (yn enwedig ar gyfer gemau), oherwydd ei fod yn helpu i gadw’r holl ddarnau gyda’i gilydd;
- Cofiwch gadw’r wybodaeth ddiogelwch ac unrhyw gyfarwyddiadau mewn lle diogel. Mae’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n prynu gêm neu degan ail-law.
Ar-lein
- Gallwch basio eitemau sy’n gweithio’n dda ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau fel Freecycle a Freegle;
- Neu gallwch eu gwerthu ar wefannau fel Gumtree (cewch eu rhestru’n rhad ac am ddim) ac eBay (rhaid i chi dalu i’w rhestru).
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom eu heisiau mwyach;
- Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn;
- Hysbysebwch nhw yn y papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau lleol.
Ailgylchwch nhw…
A oeddech chi’n gwybod?
Mae’n hawdd gwirio a ellir ailgylchu gêm neu degan ai peidio. Yn syml, gofynnwch y cwestiynau canlynol:
- A oes ganddo blwg?
- A yw’n defnyddio batris?
- A oes angen ei wefru?
- A oes ganddo lun o fin olwynion â chroes arno?
Os gwnaethoch ateb OES neu YDY i unrhyw un o’r rhain, gellir ei ailgylchu yn eich canolfan ailgylchu agosaf.
Erbyn hyn, mae rhai cynghorau’n casglu eitemau trydanol bach fel rhan o’ch casgliad ailgylchu o’r cartref, ond bydd eraill yn gofyn i chi fynd â’r eitemau hyn i’ch canolfan ailgylchu agosaf. Gwiriwch y lleolydd cod post neu cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod sut gallwch ailgylchu yn eich ardal leol.