Beth i'w wneud gyda
DODREFN

Ble gallaf i ailgylchu? »
Os oes gennych chi ddodrefn nad oes eu hangen arnoch chi mwyach ac y gallai rhywun arall eu defnyddio, beth am ystyried yr opsiynau canlynol...
Pasiwch nhw ymlaen...
Elusennau a sefydliadau ailddefnyddio
- Gall rhai dodrefn gael eu rhoi i siop elusen, sefydliad ailddefnyddio dodrefn neu brosiect cymunedol lleol;
- Gwiriwch a yw eich cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer ailddefnyddio;
- Bydd angen i ddodrefn wedi’u clustogi, fel soffas a matresi, fod â’u labeli diogelwch tân – fel arall, ni all elusennau a sefydliadau ailddefnyddio eu gwerthu.
Mae bob amser yn werth gwirio pa fath o ddodrefn y gellir ei roi – yn aml, mae elusennau a sefydliadau ailddefnyddio yn casglu eitemau gwahanol.
Ar-lein
- Gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau felFreecycle a Freegle;
- Neu gallwch eu gwerthu ar wefannau fel eBay, Gumtree a Preloved.
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom ni eu heisiau mwyach;
- Gwerthwch eitemau llai yn lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer pethau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn (Mae Car Boot Junction yn rhestru’r holl arwerthiannau cist car yn y DU);
- Rhowch hysbyseb yn y papur newydd lleol neu mewn ffenestr siop;
- Cadwch lygad am ddigwyddiadau cyfnewid lleol – efallai y byddwch yn bachu eich bargen eich hun!
Rhowch gynnig ar atgyweirio...
Os oes gennych chi eitemau sydd wedi torri ac sydd angen côt newydd o baent neu atgyweiriad syml i’w hadnewyddu, beth am roi cynnig arni? Trwy ymarfer ychydig bach a bod yn dringar ac yn ofalus, gallech chi adfywio eich hen ddodrefn! Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch am help gan eich ffrindiau neu berthnasau.
Fel arall, edrychwch ar-lein neu mewn cyfeirlyfrau ffôn am wasanaethau atgyweirio lleol.
Sut gallaf i ei ailgylchu?
Yn aml, gall dodrefn na all unrhyw un arall eu defnyddio gael eu hailgylchu, yn enwedig eitemau sydd wedi’u gwneud o bren a metel.
- Gall y rhan fwyaf o ddodrefn gael eu hailgylchu yn eich canolfan ailgylchu lleol;
- Ewch i'n 'Alla' I ei ailgylchu?' dudalen i ddod o hyd i'ch canolfan ailgylchu agosaf sy’n derbyn yr eitemau hyn;
- Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu darparu gwasanaeth casglu - cysylltwch â nhw am fwy o fanylion.