Beth i'w wneud gyda
DEUNYDDIAU ADEILADU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Nid yw brics, rwbel adeiladu, bwrdd plastr na phren yn cael eu casglu fel rhan o gynllun ailgylchu gwastraff y cartref eich cyngor; fodd bynnag, fel arfer gallwch fynd â nhw i’ch canolfan ailgylchu gwastraff y cartref lleol.
Os oes gennych chi ddeunyddiau adeiladu y mae angen i chi gael gwared arnynt, ystyriwch yr opsiynau canlynol:
Pasiwch nhw ymlaen...
Ar-lein
- Ewch ar-lein i wefannau fel Freecycle a Freegle i’w rhoi’n rhad ac am ddim;
- Rhowch gynnig ar hysbysebu eich deunyddiau adeiladu dros ben ar wefannau fel eBay neu Gumtree.
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau i weld a oes eu hangen arnynt ar gyfer unrhyw brosiectau adeiladu sydd ganddynt yn yr arfaeth;
- Gwiriwch yn lleol – efallai y gall prosiect cymunedol yn eich ardal leol ddefnyddio eich manion adeiladu. Hysbysebwch mewn papurau newydd lleol, ffenestri siopau neu ar hysbysfyrddau cymunedol
Ailgylchwch nhw...
- Os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw un sydd eisiau eich deunyddiau adeiladu, gallwch gael gwared ar y rhan fwyaf ohonynt yn eich canolfan ailgylchu leol. Mae cyfyngiadau ar sut y gallwch gael gwared ar fwrdd plastr, ond mae hyn yn amrywio ar draws y wlad – felly, gwiriwch â’ch cyngor yn gyntaf;
- Bydd angen i chi eu cludo eich hun. Cysylltwch â’r ganolfan ailgylchu i gael gwybod beth yw’r oriau agor, a all amrywio ar gyfer ceir a faniau;
- Os byddwch yn mynd â rwbel adeiladu mewn fan, gwiriwch â’r ganolfan ailgylchu a fydd angen unrhyw ganiatâd neu ddull adnabod arnoch i wneud hynny.
Beth arall gallaf ei wneud?
- Fel arall, gallwch drefnu i gwmni gwaredu gwastraff ddod â sgip i’ch cartref i gael gwared â’ch defnyddiau adeiladu.
A ellir eu hailddefnyddio?
- Os oes gennych eitemau penodol, fel drysau, rheiddiaduron, sinciau, tapiau a.y.y.b. sydd mewn cyflwr da, beth am eu cyfnewid neu eu rhoi?
- Beth am wneud barbeciw allan o friciau gydag unrhyw friciau neu dywod sydd dros ben?
Alla’ i wneud unrhyw beth arall â nhw?
- Gellir defnyddio pren adeiladu o unrhyw ansawdd neu radd ar gyfer nifer o bethau, gan gynnwys eitem angenrheidiol ar gyfer unrhyw ailgylchwr neu arddwr brwd - bin compost;
- Gallech roi cynnig ar werthu eich deunyddiau i’ch canolfan adfer lleol. Mae canolfannau adfer yn gwerthu deunyddiau o bob math – briciau, pren, lleoedd tân a.y.y.b.