Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Sut y caiff ei ailgylchu?
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Beth i'w wneud gyda

DEUNYDD PACIO ANRHEGION A THEGANAU

Ble gallaf i ailgylchu? »

Gellir ailgylchu rhai deunyddiau pacio anrhegion a theganau, ond bydd angen eu gwahanu a’u didoli.

Dyma rai awgrymiadau syml gan Gymdeithas Teganau a Hobïau Prydain:

  • Cadwch yr holl wybodaeth ddiogelwch o’r deunydd pacio a’i chadw â’r cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio.  Trwy wneud hyn, gallwch gyfeirio ati yn y dyfodol, neu ei phasio ymlaen i rywun arall os byddwch yn rhoi’r tegan i ffrindiau, perthnasau neu siop elusen;
  • Cadwch ddeunyddiau pacio bach a bagiau plastig oddi wrth blant bob amser;
  • Cadwch ddeunyddiau pacio pan fyddant yn offeryn amlwg ar gyfer storio’r cynnyrch, fel jig-sos a gemau.

Beth arall gallaf ei wneud ag ef?

  • Gall bagiau anrhegion gael eu cadw a’u hailddefnyddio;
  • Mae rhai bocsys anrhegion yn ddel iawn a gellir eu cadw i roi gemwaith, tlysau a chofroddion arbennig ynddynt, er enghraifft.

Ei ailgylchu...

Yn aml, mae deunyddiau pacio teganau ac anrhegion yn cynnwys deunyddiau gwahanol - fel cardbord, papur a phlastig.  Gellir ailgylchu rhai o’r rhain, ond ni ellir ailgylchu eraill.  Bydd angen i chi wahanu’r rhain cyn eu hailgylchu.

  • Tynnwch ffenestri plastig o focsys cardbord cyn eu hailgylchu - dylech roi’r ffenestr blastig yn eich bin sbwriel
  • Gwasgwch gardbord er mwyn ei gludo’n hawdd i gyfleusterau ailgylchu neu i wneud mwy o le yn eich bin ailgylchu gwastraff y cartref
  • Gall pecynnau pothellog plastig sydd wedi’u marcio â PET neu PETE gael eu hailgylchu gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, ond gwiriwch â’ch cyngor yn y lle cyntaf 
  • Dylech gadw clymau gwifren ar wahân i weddill y deunydd pacio.  Yn gyffredinol, ni ellir ailgylchu’r rhain, ond gellir eu hailddefnyddio h.y. i glymu planhigion yn yr ardd neu ail-selio pacedi o lysiau rhewedig sydd ar eu hanner
  • Tynnwch yr handlenni rhaff neu ruban oddi ar fagiau anrhegion - gall y rhain gael eu hailddefnyddio neu dylech eu rhoi yn eich bin sbwriel

Related pages

Alla' I ei ailgylchu

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Cymru yn Ailgylchu

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU