Beth i'w wneud gyda
PAPUR SWIGOD
Ble gallaf i ailgylchu? »
Erbyn hyn, mae rhai cynghorau’n cynnig casgliad ar gyfer ailgylchu papur swigod, ond mae hyn yn gyfyngedig o hyd; gwiriwch â’r cyngor i weld a allwch ei ailgylchu’n lleol.
Os oes gennych chi bapur swigod y mae angen i chi gael gwared arno, mae nifer o opsiynau:
Ailddefnyddiwch ef...
Mae papur swigod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer:
- Amddiffyn anrhegion neu eitemau gwerthfawr sy’n cael eu postio;
- Lapio eitemau sy’n cael eu symud neu’n cael eu storio.
Pasiwch ef ymlaen...
- Holwch ffrindiau a pherthnasau i weld a allant ei ddefnyddio – os ydynt yn symud tŷ neu’n storio eitemau, bydd yn ddefnyddiol iawn;
- Ewch ar-lein i’w roi’n rhad ac am ddim – rhowch gynnig ar wefannau felFreecycle neu Freegle.
Beth arall gallaf ei wneud ag ef?
- Ei ddefnyddio yn yr ardd i amddiffyn planhigion a photiau rhag difrod rhew;
- Ei ddefnyddio i insiwleiddio eich sied neu’ch tŷ gwydr, gan ei dyllu i ganiatáu awyriad.
A allaf ei ailgylchu?
Mae papur swigod wedi’i wneud o fath o blastig o’r enw polythen. Mae gwasanaethau casglu ailgylchu ar gyfer plastigion yn amrywio, felly gwiriwch y lleolydd cod post neu holwch eich cyngor i ddarganfod a allwch ei ailgylchu yneich canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol.