Beth i'w wneud gyda
Bocsys brechdanau
Gellir ailgylchu bocsys brechdanau, neu sgiledi brechdanau fel y’i gelwir yn dechnegol, gyda deunyddiau pacio eraill wedi’u gwneud o gardfwrdd. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi gwagio’r bwyd ohonynt cyn eu hailgylchu.
Mae rhai o’r bocsys hyn wedi’u dylunio i’w gwneud yn hawdd ichi dynnu’r leinin a’r ffenestr blastig cyn eu hailgylchu. Gallwch eu tynnu oddi ar y cardfwrdd os yw’n hawdd gwneud hynny.