Beth i'w wneud gyda
BATRIS CEIR

Ble gallaf i ailgylchu? »
Bydd rhai canolfannau ailgylchu yn cymryd batris ceir, ond mae’n well gwirio â’ch cyngor cyn i chi deithio. Gallwch eu hailgylchu mewn mannau eraill hefyd.
Sut dylwn i ailgylchu batris ceir?
- Yn ôl y gyfraith, rhaid i fatris ceir beidio â chael eu gwaredu â gwastraff y cartref;
- Maent yn cael eu casglu mewn modurdai, cyfleusterau metel sgrap a llawer o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (y ‘domen sbwriel’);
- Weithiau, bydd yr arbenigwr sy’n newid eich batri yn gallu cael gwared ar yr hen un yn ddiogel i chi.