Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Sut y caiff ei ailgylchu?
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Beth i'w wneud gyda

ADDURNIADAU NADOLIG

""

Yn gyffredinol, ni ellir ailgylchu’r rhan fwyaf o addurniadau Nadolig, ond mae modd ailgylchu rhai ohonynt.  Isod, ceir canllaw ar sut y gallwch gael gwared arnynt.

Goleuadau coeden Nadolig

Mae modd ailgylchu goleuadau coeden Nadolig.  Erbyn hyn, mae rhai cynghorau’n dechrau casglu eitemau trydanol bach fel rhan o’ch casgliad ailgylchu gwastraff y cartref (fel arfer, mae angen i’r eitem fod mewn bag ar wahân i weddill eich deunyddiau i’w hailgylchu); fel arall, gallwch eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ag eitemau trydanol.

Torchau

Os ydych wedi dewis torch sy’n cynnwys deunyddiau naturiol fel eiddew, celyn neu doriadau coeden pinwydd, byddwch yn gallu compostio’r gwyrdd-ddail wedi i chi eu tynnu oddi ar y gwaelod, cyn belled â nad ydynt wedi’u gorchuddio â gormod o befriad.  Gall darnau addurnol y torch, fel rhubanau, blodau ac aeron plastig a’r werddon/gwaelod gael eu hailddefnyddio.  Efallai yr hoffech chi gadw’r darnau hyn wrth law a rhoi cynnig ar wneud addurniad bwrdd hyfryd ar gyfer eich cartref yn y gwanwyn, neu dorch arall y Nadolig nesaf!

Cadwyni papur

Yn opsiwn gorau yw compostio eich addurniadau papur gartref yn hytrach na’u hailgylchu.  Mae hyn oherwydd bod addurniadau papur yn aml wedi’u lliwio’n llachar ac mae gan y papur ffibrau byr hefyd - nid yw’r un o’r ddau beth hyn yn ddelfrydol ar gyfer ailgylchu.  Os nad oes gennych chi fin compost cartref, gallwch wirio â’ch cyngor lleol i weld a allwch gynnwys yr eitemau hyn yn eich casgliad ailgylchu.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut y caiff papur ei ailgylchu trwy wylio ein fideo byr:

Tlysau coeden Nadolig

Nid oes modd ailgylchu tlysau coeden Nadolig gwydr – os bydd unrhyw un o’ch tlysau gwydr yn torri, lapiwch ef yn ofalus a’i roi yn eich bin sbwriel.

Fel arfer, mae tlysau coeden Nadolig plastig wedi’u gwneud o fathau o blastig nad ydynt yn cael eu casglu’n eang yn y DU hyd yn hyn, ac maent yn debygol o fod wedi’u gorchuddio â phefriad a fyddai’n effeithio ar y broses ailgylchu.

Os cafodd eich coeden Nadolig ei chyflenwi â thlysau plastig nad ydych yn bwriadu eu defnyddio, beth am ystyried eu rhoi i siop elusen neu eu cynnig i ffrindiau neu berthnasau?  Fel arall, ceisiwch eu rhoi’n rhad ac am ddim arFreecycle neu Freegle.

Cofiwch yr hen ddywediad Saesneg: "One person's trash is another person's treasure!"

Tinsel

Ni ellir ailgylchu tinsel.  Os yw eich tinsel wedi colli ei ddisgleirdeb a bod angen i chi ei daflu, mae angen i chi ei roi yn eich bin sbwriel.

Ac yn olaf...

Yn lle prynu addurniadau newydd pan fydd eich hen rai wedi gweld dyddiau gwell, beth am roi cynnig ar wneud rhai?

Gall hyn fod yn andros o hwyl a byddant yn gymharol unigryw hefyd!  Mae’r fideos gwych hyn yn dangos i chi sut i’w gwneud:

Related pages

Alla' I ei ailgylchu

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Cymru yn Ailgylchu

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU