Skip to main content
English
English

Polisi preifatwrydd

Mae WRAP yn ymrwymedig i fod yn dryloyw am sut mae’n casglu ac yn defnyddio eich data ac yn bodloni ei rwymedigaethau diogelu data. Bwriad y Polisi Preifatrwydd hwn yw eich helpu i ddeall pa ddata rydym yn ei gasglu a beth rydym yn ei wneud ag ef.

Sut caiff eich data ei brosesu

O bryd i’w gilydd, gofynnir i chi roi gwybodaeth bersonol amdanoch eich hunan (enw, cyfeiriad ebost ac ati) er mwyn derbyn neu ddefnyddio gwasanaethau ar ein gwefan. Hefyd, byddwn yn casglu rhai mathau o ddata, fel yr amlinellir isod. Caiff rhywfaint o’r wybodaeth hon ei storio mewn cwcis, a gallwch ddysgu sut rydym yn defnyddio’r rhain yn ein polisi cwcis.

Rydym yn prosesu eich data personol yn y ffyrdd canlynol:

Ar gyfer rhai buddiannau dilys:

- i wella eich profiad:

  • i’ch galluogi i fewngofnodi ac aros wedi’ch mewngofnodi ar ein safle;

  • i ddangos cynnwys mewn modd sy’n addas i’ch dyfais.

- i fesur effeithiolrwydd ein gwefan a’n sianelau marchnata;

- i ganfod effeithiolrwydd adnoddau:

  • e.e. i ddarparu ebost dilynol ar ôl i ddefnyddiwr lawrlwytho adnodd penodol, er mwyn deall y newid busnes a allai fod wedi digwydd.

- i ganfod ac atal twyll;

- i ganfod ac atal sbam; ac

- os ydych yn un o’n partneriaid, i anfon negeseuon ebost atoch gyda chyfathrebiadau marchnata.

Yn seiliedig ar eich caniatâd:

- i ddarparu profiad wedi’i deilwra i chi:

  • h.y. darparu cynnwys wedi’i deilwra i chi. - i anfon negeseuon marchnata atoch:

  • h.y. marchnata trwy gyfrwng ebost a hysbysebu ar-lein; byddwn yn cael caniatâd ar wahân am hynny.

- mesur effeithiolrwydd ein proffiliau cynulleidfa ar ein gwefan a’n sianelau marchnata;

- at ddibenion ymchwil ac i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol.

Y data a gasglwn

Mae’r data a gasglwn yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad ebost, cod post, gwlad a rhif ffôn;

  • Enw sefydliad a theitl swydd;

  • Cyfeiriad IP;

  • Gweithrediadau ar y wefan (h.y. y cynnwys a edrychwyd arno ac a gafodd ei lawrlwytho);

  • Dewisiadau marchnata;

  • Proffilio cynulleidfa;

  • Gwybodaeth sy’n benodol i ddigwyddiad, e.e. anghenion dietegol. Dim ond ar gyfer y digwyddiad hwnnw y defnyddir yr wybodaeth hon.

Rhannu eich data

Yn ddibynnol ar gyfraith diogelu data berthnasol, efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda:

  • Cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau i ni;

  • Cynghorwyr neu gyrff cyfreithiol a phroffesiynol;

  • Cwmnïau atal twyll;

  • Sefydliad rydym yn gwerthu neu’n trwyddedu’r rhan berthnasol o’r busnes iddynt er mwyn cadw eich buddiannau dilys;

  • Unrhyw sefydliad arall os rydym wedi cael eich caniatâd neu pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Pa bryd bynnag y byddwn yn prosesu data at y dibenion hyn, byddwn yn sicrhau ein bod bob amser yn cadw eich hawliau Data Personol gyda pharch o’r mwyaf a byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r hawliau hyn. Mae’r hawl gennych i wrthwynebu’r prosesu yma pe dymunech, ac os felly, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

Am ba hyd y cadwn eich data

Cyfrifon gwefan

  • Rydym yn dileu cyfrifon sydd wedi bod yn segur am 2 flynedd.

Cyfrifon rhaglenni ar y we

  • Lle gallwn weld pa bryd y gwnaeth rhywun fewngofnodi ddiwethaf, rydym yn dileu cyfrifon sydd wedi bod yn segur am 4 blynedd;

  • Lle na allwn weld pa bryd y gwnaeth rhywun fewngofnodi ddiwethaf, byddwn yn cadw’r wybodaeth am hyd oes y rhaglen er mwyn cadw eich buddiannau dilys pe dymunech ddefnyddio’r rhaglen.

Google Analytics

  • Caiff data ar lefel defnyddiwr a lefel digwyddiadau a gaiff ei storio gan Google Analytics ei ddileu’n awtomatig o weinydd Analytics ar ôl 50 mis.

Dadansoddeg WRAP

  • Caiff data ar lefel defnyddiwr a gaiff ei storio gan adnodd dadansoddeg WRAP ei ddileu neu ei wneud yn gwbl ddienw ar ôl 50 mis.

Rhestrau marchnata ebost

  • Mae’r opsiwn gennych i ddad-danysgrifio o’n rhestrau marchnata ebost, a byddwn yn cadw at ein gair am hyn yn ddieithriad. Byddwn hefyd yn glanhau ein rhestrau o bryd i’w gilydd i sicrhau eu bod yn gyfredol.

Eich hawl fel testun data

Ar unrhyw adeg tra bo’ch data personol yn ein meddiant neu’n cael ei brosesu gennym, mae’r hawliau canlynol yn eiddo i chi, testun y data:

  • Hawl mynediad – mae’r hawl gennych i ofyn am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei gadw amdanoch;

  • Yr hawl i gywiro – mae’r hawl gennych i gywiro data rydym yn ei gadw amdanoch sydd yn anghywir neu’n anghyflawn;

  • Yr hawl i gael eich anghofio – mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i’r data rydym yn ei gadw amdanoch gael ei ddileu o’n cofnodion;

  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – lle mae rhai amodau’n gymwys i gael hawl i gyfyngu ar y prosesu;

  • Yr hawl i gludadwyedd – mae’r hawl gennych i gael trosglwyddo’r data rydym yn ei gadw amdanoch i sefydliad arall;

  • Yr hawl i wrthwynebu – mae’r hawl gennych i wrthwynebu i rai mathau o brosesu, fel marchnata uniongyrchol;

  • Yr hawl i wrthwynebu i brosesu awtomatig, yn cynnwys proffilio – mae’r hawl gennych hefyd i fod yn destun effeithiau cyfreithiol prosesu neu broffilio awtomatig.

Mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Yn unol â’r hawliau uchod, mae’r hawl gennych i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol y mae WRAP yn ei gadw amdanoch, i gael cywiro unrhyw anghywirdebau, neu i ofyn iddo gael ei ddileu. Dylech gyfeirio ceisiadau at y person sy’n gyfrifol am Ddiogelu Data (ebost: [email protected]).

Defnyddwyr dan 18 oed

Os ydych chi dan 18 oed, gofynnwch am ganiatâd eich rhiant/gwarcheidwad o flaen llaw pa bryd bynnag y byddwch yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i WRAP. Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb y caniatâd hwn roi gwybodaeth bersonol i ni.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu os hoffech gwyno am sut rydym yn prosesu eich data personol, neu sut ymdriniwyd â’ch cwyn, mae’r hawl gennych i wneud cwyn yn uniongyrchol i’r Awdurdod Goruchwylio a chynrychiolydd diogelu data WRAP.

Manylion chynrychiolydd diogelu data WRAP yw:

Diogelu Data [email protected]

WRAP 2nd Floor Blenheim Court 19 George Street Banbury OX16 5BH