Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

PETHau NA WYDDOCH Y GALLECH EU HAILGYLCHU

Felly, mae gennych arferion ailgylchu sy’n gweithio i chi. Mae’r drefn yn hen gyfarwydd, ac nid oes potel laeth blastig na chan bwyd gwag i’w weld yn y gegin – mae’r cwbl yn aros yn amyneddgar i gael eu casglu i’w hailgylchu. Gwaith da! Ond a yw'r gwaith i gyd wedi’i wneud?

Edrychodd arolwg newydd gan Ailgylchu dros Gymru ar pam mae pobl yn ailgylchu ac ym mha rannau o’r cartref y gallwn wella ein hailgylchu. Un ystafell lle ceir llawer o nwyddau sy’n hawdd i’w hailgylchu yw’r ystafell ymolchi.

Bathroom edit_bilingual.png

Ailgylchu o’r Ystafell Ymolchi

Mae llawer o eitemau yn yr ystafell ymolchi sy’n aros i gael eu hailgylchu a gallant wneud gwahaniaeth mawr. Er enghraifft, pe bai pawb yn y Deyrnas Unedig yn ailgylchu un bocs past dannedd, byddai’n arbed digon o ynni i bweru oergell mewn mwy na 2,000 o gartrefi am flwyddyn. Dyma restr ddefnyddiol i’ch atgoffa:

  • Bocsys past dannedd: eu fflatio;
  • Tiwbiau papur toiled: eu fflatio;
  • Poteli siampŵ a chyflyrydd gwallt gwag – gwagiwch a rinsiwch yr eitemau, a rhowch y caeadau/topiau yn ôl arnyn nhw;
  • Cynwysyddion gel cawod – gwagiwch a rinsiwch yr eitemau, a rhowch y caeadau/topiau yn ôl arnyn nhw;
  • Poteli sebon hylif – gwagiwch, rinsiwch a thynnwch y pwmp (rhowch y pwmp yn y bin sbwriel);
  • Poteli cannydd – gwagiwch, rhowch y caead yn ôl arnyn nhw;
  • Poteli hylif glanhau – rinsiwch a rhowch y chwistrell yn ôl arnyn nhw.

Ailgylchu yn yr ystafell wely

Pe bai pawb yn y Deyrnas Unedig yn ailgylchu un erosol diaroglydd alwminiwm, byddai’n arbed digon o ynni i bweru teledu mewn mwy na 151,000 o gartrefi am flwyddyn. Anhygoel, on’d yw e? Mae’r eitemau i gofio amdanyn nhw’n cynnwys:

  • Bocsys hancesi papur gwag – tynnwch unrhyw blastig ohonyn nhw a’u fflatio;
  • Hen gylchgronau;
  • Erosolau diaroglydd a chwistrell gwallt gwag – sicrhewch eu bod yn wag, a thynnwch y caeadau plastig (a’u hailgylchu gyda’ch plastigion).

Awn ymlaen i’r ystafell fyw...

Wyddoch chi ei bod yn cymryd saith diwrnod i bapur newydd gael ei ailgylchu a dod yn ôl fel papur newydd unwaith eto? Gallech chi fod yn darllen eich hoff bapur newydd ar bapur wedi’i ailgylchu mewn dim! Yn yr ystafell hon yn aml iawn gallwch ddod o hyd i’r eitemau hyn i’w hailgylchu:

  • Amlenni;
  • Papurau newydd;
  • Pecynnau cardfwrdd o nwyddau a brynwyd ar-lein – tynnwch y tâp pacio a’i fflatio i arbed lle yn eich bin ailgylchu;
  • Gall hyd yn oed caniau peraroglydd wneud gwahaniaeth – pe bai pawb yn y Deyrnas Unedig yn ailgylchu un tun erosol peraroglydd, gellid arbed digon o ynni i hwfro mwy na 876,000 o gartrefi am flwyddyn – dyna nifer fawr o gartrefi twt!

Yn ôl i’r gegin

Ynghyd â’r poteli diod arferol yn y gegin, cofiwch edrych yn y cwpwrdd o dan y sinc! Mae’r eitemau sy’n aml yn mynd yn angof yn cynnwys:

  • Poteli golchi llestri – gwagiwch a rinsiwch;
  • Poteli cannydd – gwagiwch, rhowch y caead yn ôl;
  • Poteli hylif glanhau – rinsiwch a rhowch y chwistrell yn ôl;
  • Poteli hylif golchi dillad a chyflyrydd – gwagiwch a rinsiwch;
  • Tuniau polish dodrefn a pheraroglyddion – sicrhewch eu bod yn wag a thynnu’r caeadau plastig (a’u hailgylchu gyda’ch plastigion);
  • Bocsys tabledi peiriant golchi llestri, a bocsys ffoil a haenen lynu ac ati – fflatiwch nhw i arbed lle yn eich bin ailgylchu.

Gwyliwch ein fideo am fwy o syniadau a chynghorion

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU