Pedwar cam syml i ddechrau ailgylchu
Mae dechrau arni yn hawdd. Dilynwch ein camau syml a dechrau ailgylchu heddiw.
1. Cael yr offer cywir
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod pa offer sydd ei angen arnoch i ddechrau ailgylchu. Mae’r rhan fwyaf ohono’n rhad ac am ddim, er efallai bod rhai cynghorau’n codi ffi fach am fagiau. Gellir dosbarthu offer i’ch drws neu, fel arall, ewch i’ch llyfrgell agosaf neu adeilad arall y cyngor i gasglu unrhyw finiau, blychau neu fagiau y gall fod arnoch eu hangen.
Ddim yn gwybod pa offer sydd ei angen arnoch?
2. Darganfyddwch beth y gallwch ei ailgylchu
Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o bethau, ond nid popeth! Gwiriwch ein rhestr A-Y o’r deunyddiau y gallwch eu hailgylchu, sy’n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â beth i’w wneud â’ch gwastraff. Os nad ydych yn siwr o hyd, cysylltwch â’r cyngor lleol a all roi rhestr lawn i chi o’r hyn y gallwch ei ailgylchu yn eich ardal. Sylwer nad yw pob cyngor yn ailgylchu’r un pethau, felly mae’n well gwirio yn gyntaf.
3. Gwastraff Bwyd
Peidiwch ag anghofio am wastraff bwyd! Mae gan bron Cymru gyfan wasanaeth casglu gwastraff bwyd a gwneir casgliadau unwaith yr wythnos fel arfer. Gellir ailgylchu unrhyw fwyd, felly mae’n hawdd dechrau arni!
4. Darganfyddwch pa ddyddiad y caiff eich deunydd ei gasglu i’w ailgylchu
Darganfyddwch pryd y caiff eich deunydd ei gasglu i’w ailgylchu. Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn casglu deunydd i’w ailgylchu yn wythnosol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod beth yw’r amserlen casglu yn eich ardal chi.
Gwyliwch ein fideos ar sut i ddechrau ailgylchu:
Ailgylchu plastig gwastraff:
Gallwn ni ailgylchu offer electronig hefyd:
Dal wedi drysu? Cysylltwch â’r cyngor lleol am fwy o wybodaeth