COMPOSTIO HEB DDEFNYDDIO BIN
Publication date:
4 May 2020
Yn sgil y lleihad mewn casgliadau gwastraff gwyrdd ledled y wlad, nawr yw’r amser delfrydol i fynd ati i gompostio gartref, a’r newyddion da yw nad oes angen ichi wario arian yn prynu bin. Dyma awgrymiadau gwych ar gyfer dechrau tomen gompost am ddim gartref gan David Garrett, Pennaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yr elusen Garden Organic.
- Ystyriwch ble i roi’r domen; ei gosod ar bridd yw’r dewis gorau, mewn man sy’n cael golau’r haul am o leiaf rywfaint o’r dydd. Does dim angen llawer o le – ystyriwch faint o wastraff o’r ardd a chrafion bwyd o’r gegin fyddwch chi’n ei greu;
- Unwaith rydych wedi penderfynu ar leoliad, cofiwch glirio unrhyw chwyn lluosflwydd oddi yno, gan eu bod yn gallu tyfu drwy’r compost;
- Gallwch ddewis creu tomen syml – neu bentwr – o wastraff i ychwanegu ato, neu efallai y byddwch am ei gadw mewn rhyw fath o gynhwysydd. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio hen baledi pren, rhwyllen denau a physt, neu sach adeiladu, er enghraifft. Cofiwch y byddwch eisiau cyrraedd y bin yn barod i gael y compost allan ryw ben, felly peidiwch â chael eich temtio i adeiladu castell cadarn;
- Mae’n bwysig hefyd eich bod yn caniatáu rhyw fath o lif aer drwy’r domen; heb aer bydd yn mynd i ddrewi. Y ffordd orau o greu pocedi aer mewn tomen gompost yw ychwanegu deunyddiau brown fel bocsys grawnfwyd a bocsys wyau. Os ydych chi’n adeiladu bin, gallwch adael bylchau bach yn yr ochrau. Does dim angen bylchau mawr – mae cyn lleied ag ambell i dwll dril drwy’r ochrau yn gallu helpu;
- Mae caeadau ar rai biniau compost, ond nid oes rhaid cael un. Ei bwrpas yw cadw’r lleithder i mewn ac atal glaw trwm rhag golchi maetholion allan o’r compost. A dweud y gwir, ychydig iawn o faetholion sy’n cael eu colli fel hyn, ac mae hynny sydd yn llifo allan yn siŵr o gyfoethogi’r pridd o amgylch eich tomen. Os dymunwch roi caead ar y bin, yna mi fuaswn i’n awgrymu cardfwrdd neu sgwaryn tarpolin, gan osgoi deunyddiau sy’n debygol o halogi’r bin, fel carpedi;
- Wrth lenwi’r bin compost, cofiwch gadw cymysgedd 50/50 o ddeunyddiau gwyrdd fel tocion gwair a phlicion ffrwythau a llysiau (dim bwyd wedi’i goginio), a deunyddiau brown fel bocsys wyau a thocion pren.
O ychwanegu at eich tomen yn rheolaidd, mi fyddwch yn creu ffordd gynaliadwy o reoli gwastraff eich cartref yn ogystal â chael compost gwych, llawn maetholion i’w ddefnyddio yn eich gardd mewn tua 12 mis. Am fwy o wybodaeth am gompostio gartref, ewch draw i wefan Garden Organic.