Mae criwiau gwastraff ac ailgylchu yn weithwyr allweddol hefyd, ac mae angen arnyn nhw am ein helpu!
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru’n gweithio’n galed i ddarparu’r gwasanaeth gorau bosib yn ystod yr argyfwng COVID-19. Mae criwiau gwastraff ac ailgylchu yn weithwyr allweddol, ac maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog.
Gan fod y rhan fwyaf ohonom yn aros gartref ar hyn o bryd, bydd mwy o wastraff o’r cartref yn rhoi pwysau ar wasanaethau ailgylchu a gwastraff.
Gallwn helpu trwy:
- Edrych ar wefan y cyngor lleol yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mathau ac amlder casgliadau ailgylchu a gwastraff yn ein hardal ni – yn cynnwys yr eitemau y gellir eu hailgylchu a’r rhai na ellir eu hailgylchu;
- Peidio mynd â gwastraff ac ailgylchu i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref. Nid yw’r Llywodraeth yn diffinio hyn fel siwrne angenrheidiol – ac mae’r holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn awr ar gau;
- Peidio mynd â dillad ac eitemau eraill i siopau elusen. Mae’r siopau hyn ar gau ar hyn o bryd. Ni ddylid gadael eitemau ar eu stepen drws. Os ydych chi’n manteisio ar y cyfle i glirio’r atig, y garej neu’r wardrob, daliwch eich gafael ar yr eitemau hyn gan y bydd siopau elusen yn ddiolchgar iawn ohonynt ar ôl i’r argyfwng fynd heibio;
- Osgoi sesiynau clirio mawr o gwmpas y cartref ar hyn o bryd, gan y bydd yn creu mwy o sbwriel ac ailgylchu i griwiau’r cyngor eu casglu. Mae angen inni ddal ein gafael ar eitemau mawr fel dodrefn, matresi ac ati nes bydd yr argyfwng wedi mynd heibio a’r gwasanaethau’n dychwelyd i normal;
- Lleihau’r symiau o sbwriel, ailgylchu a gwastraff bwyd rydym yn ei greu. Bydd pob lleihad bach y gallwn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gynnal gwasanaeth da i bawb:
- Mae cynghorion ar gyfer lleihau gwastraff bwyd i’w gweld ar y wefan hon – lovefoodhatewaste.com – yn cynnwys sut i storio bwyd yn gywir a defnyddio bwyd dros ben, i wneud i’ch bwyd bara’n hirach ac i’ch helpu i wneud llai o dripiau i’r siop fwyd: lovefoodhatewaste.com (gwefan Saesneg yn unig);
- Ailddefnyddio eitemau y byddwn fel arall yn eu taflu, neu dod o hyd i bwrpas arall iddyn nhw. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio tybiau plastig gyda chaeadau i gadw bwydydd dros ben yn y rhewgell, neu dorri hen gynfasau a thyweli i’w defnyddio fel cadachau dystio a glanhau.
- Peidio â llosgi ein gwastraff gartref. Mae hyn yn creu llygredd aer a allai beri niwed i bobl gyfagos a allai fod yn cael problemau anadlu’n barod oherwydd COVID-19. Mae perygl hefyd y gallai tanau fynd tu hwnt i reolaeth. Mae’r gwasanaethau tân ledled y wlad yn dweud bod cynnydd mewn galwadau oherwydd tanau mewn gerddi.
Pan fyddem yn roi ein bagiau, biniau, bocsys a chadis gwastraff ac ailgylchu allan, mae yna ychydig o bethau y mae’n rhaid i ni i gyd eu gwneud i sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny mor ddiogel â phosibl:
- Os ydych chi’n hunanynysu ac yn teimlo’n wael, dylai’ch gwastraff personol (fel hancesi papur) gael eu bagio’n ddwbl a’u rhoi o’r neilltu am o leiaf 72 awr (3 diwrnod) cyn eu rhoi allan i’w casglu;
- Peidiwch â rhoi hancesi papur yn eich ailgylchu gan na ellir eu hailgylchu;
- Diheintiwch handlenni’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis cyn ac ar ôl ichi eu cyffwrdd;
- Rhowch eich bagiau, biniau, bocsys a chadis allan y noson cyn eich casgliad, gan y gall amseroedd y casgliadau newid yn ystod y cyfnod hwn;
- Cadwch eich pellter pan fydd ein gweithwyr yn casglu’ch gwastraff a’ch ailgylchu;
- Diheintiwch handlenni’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis eto, cyn ac ar ôl eich casgliadau;
- Golchwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl cyffwrdd a diheintio eich bagiau, biniau, bocsys a chadis;
- Rhowch y weips, cadachau, menig ayyb a ddefnyddiwyd i lanhau’ch bagiau, biniau, bocsys a chadis yn eich bin neu fag ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan na ellir ailgylchu’r rhain.
Mae eich staff casglu yn weithwyr allweddol: cadwch nhw’n ddiogel, os gwelwch yn dda.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: icc.gig.cymru/coronafeirws.
Os na all eich cyngor gasglu eich ailgylchu:
- Storiwch eich eitemau ailgylchadwy’n ddiogel nes gellir eu casglu. Cadwch unrhyw bapur a cherdyn yn sych ac oddi wrth wresogyddion, ffyrnau a fflamau, fel nad yw’n mynd ar dân. Plygwch bapur, fflatiwch focsys a gwasgwch boteli a chynwysyddion plastig fel eu bod yn cymryd llai o le.
Efallai y bydd gallu ein hawdurdodau lleol i gynnal eu casgliadau arferol yn newid trwy gydol yr argyfwng COVID-19. Daliwch i edrych ar wefan eich cyngor i ddarganfod beth fydd yn cael ei gasglu, a pharhewch i ailgylchu yn y cyfamser.