Diwrnod Ailgylchu Byd-eang: Byddai bron i dri chwarter o oedolion Cymru yn ailgylchu mwy i helpu Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu
Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang, mae arolwg a gynhaliwyd ar ran Ailgylchu dros Gymru wedi datgelu y byddai bron i dri chwarter (74%) o oedolion Cymru’n debygol o roi cefnogaeth weithredol i uchelgais i ailgylchu mwy a helpu Cymru i gyrraedd y brig yng Nghynghrair Ailgylchu’r Byd.

Cyfradd ailgylchu Cymru yw’r drydedd uchaf yn y byd eisoes* – dim ond Singapore a’r Almaen sy’n uwch – ond o’r rhai a holwyd, dim ond un mewn tri (34%) oedd yn ymwybodol mai Cymru sydd yn y trydydd safle, er i 57% ddweud bod gwybod hyn yn destun balchder iddynt.
Canfu’r arolwg hefyd bod mwy nag un traean o oedolion Cymru (36%) wedi dweud y byddent yn ailgylchu i warchod yr amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol, a dywedodd 34% y byddent yn ailgylchu gan eu bod yn meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
Mae cartrefi Cymru eisoes yn ailgylchu 63% o’u gwastraff (1), felly gallai newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu Cymru i gyrraedd y brig.
Meddai Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru sy’n rhedeg ymgyrch Ailgylchu dros Gymru: “Nid yw’n syndod bod y rhan fwyaf o’r oedolion a holwyd eisiau helpu Cymru i fod y genedl orau yn y byd am ailgylchu. Rydym eisiau gwarchod ein gwlad brydferth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rydym eisoes ymysg y gorau yn y byd am ailgylchu, ac rydym wedi dod yn bell iawn yn barod. Dyna pam rydym yn hyderus y gall Cymru gyrraedd y brig yng Nghynghrair Ailgylchu’r Byd os gwnawn oll chwarae ein rhan.
“Gall gwneud newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr. O roi bagiau te a chrafion ffrwythau a llysiau mewn cadis ailgylchu bwyd yn lle’r bin, i ailgylchu o bob un o ystafelloedd ein cartrefi – nid y gegin yn unig. Gall hyd yn oed cofio ailgylchu caniau erosol a photeli hylif glanhau, yn ogystal â’r pethau amlwg fel papur a cherdyn, poteli gwydr a chaniau, ein helpu i gyrraedd y brig.”
I ddysgu mwy am beth allwch ei wneud i helpu Cymru gyrraedd y brig, ewch i weld beth arall y gallwch ei ailgylchu yn eich ardal leol: https://www.recycleforwales.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1
*Mae hyn yn cyfeirio at wastraff trefol – e.e. gwastraff a gesglir gan awdurdodau lleol neu sy’n cael ei ddanfon i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.
(1) Ystadegyn gan Lywodraeth Cymru
Editor's notes
Nodiadau i olygyddion
- Mae Ailgylchu dros Gymru yn ymgyrch sy’n annog pobl yng Nghymru i ailgylchu mwy o bethau yn amlach o bob rhan o’u cartrefi. Darperir Ailgylchu dros Gymru gan WRAP Cymru a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i annog newid ymddygiad ledled Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff erbyn 2025 a dod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. https://www.recycleforwales.org.uk/cy
- Mae WRAP Cymru yn rhan o WRAP. Byd sy’n defnyddio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy yw gweledigaeth WRAP. Rydym yn gweithio gyda busnesau, unigolion a chymunedau i’w helpu i wireddu manteision lleihau gwastraff, datblygu cynnyrch cynaliadwy a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Cwmni dielw yw WRAP a sefydlwyd yn 2000 ac fe’i cefnogir gan gyllid llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Am fwy o wybodaeth am holl raglenni WRAP, ewch i: http://www.wrap.org.uk/
- Daw’r holl ffigurau, oni nodir fel arall, gan YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 1008 o oedolion Cymru. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 7fed – 11eg Mawrth 2019. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau yn bwysedig ac maent yn nodweddiadol o holl oedolion Cymru (oedran 18+).
- [Cyfeirir at gyfradd ailgylchu o: 63% am y flwyddyn i ddiwedd Medi 2018 https://gov.wales/statistics-and-research/local-authority-municipal-waste-management/?skip=1&lang=cy]