Gweinidog yn ymuno â disgyblion Ysgol Gynradd Pen-y-fro i ddadlennu gwaith celf buddugol
Bydd poster Polly i hyrwyddo ailgylchu gwastraff bwyd yn ymddangos ar fflyd o gerbydau ailgylchu yn ystod yr haf
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi datgelu gwaith celf newydd a fydd yn ymddangos ar gerbydau ailgylchu Abertawe yn ystod yr haf eleni.
Crëwyd y gwaith celf gan Polly, disgybl wyth mlwydd oed o Ysgol Gynradd Pen-y-fro, a ddyluniodd boster am ailgylchu gwastraff bwyd. Ei chynnig hi oedd y poster buddugol o blith dros 220 ymgais fel rhan o Ymgyrch Ailgylchu Bwyd Abertawe, a lansiwyd ym mis Ebrill i roi cyfle i ddisgyblion ysgolion Abertawe ddysgu sut caiff gwastraff bwyd ei droi’n drydan.
Cynhaliwyd Ymgyrch Ailgylchu Bwyd Abertawe gan Ailgylchu dros Gymru, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Wastebuster ac Eco-Sgolion, gyda’r nod o ddysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Abertawe sut caiff gwastraff bwyd y sir ei drin mewn cyfleuster treulio anaerobig i greu trydan i bweru tai, ysgolion ac atyniadau ymwelwyr yn eu hardal.
Cofrestrodd dros hanner ysgolion cynradd Abertawe i gymryd rhan yn yr Ymgyrch, gyda gweithgareddau ac adnoddau cysylltiedig i’r cwricwlwm a ddyluniwyd i helpu disgyblion ddeall y broses treulio anaerobig. Roedd yr Ymgyrch hefyd yn cynnwys gweithgaredd gwaith cartref i gofnodi gwastraff bwyd anochel (fel hen fagiau te, crwyn bananas a chreiddiau afalau) mewn dyddiadur bwyd a darganfod faint o ynni y gallent ei greu gan ddefnyddio cyfrifydd ynni ar-lein o’r enw’r ‘Electrogeneradur’.
Anogwyd disgyblion wedyn i ddylunio poster am ailgylchu gwastraff bwyd a chymryd rhan yng nghystadleuaeth poster yr Ymgyrch. Roedd y wobr hefyd yn cynnwys taith dywys arbennig i Polly a’i dosbarth o amgylch cyfleuster ailgylchu bwyd Agrivert ym Mhen-y-bont, i gael gweld lle mae gwastraff bwyd Abertawe’n mynd a sut caiff ei droi’n drydan.
Mae mwy a mwy o bobl yn Abertawe yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae 72% o breswylwyr y sir yn defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol a ddarperir gan y Cyngor, a’r llynedd, llwyddodd pobl Abertawe i ailgylchu digon o fwyd i bweru ysgol gyfan am chwe blynedd. Cynhaliwyd arolwg yn yr ardal yn ddiweddar a chanfod bod y rhan fwyaf o’r preswylwyr yn ailgylchu eu gwastraff bwyd er mwyn cefnogi eu cymuned a gwneud eu rhan dros yr amgylchedd.
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: “Rwyf wastad yn edmygu angerdd ein disgyblion ysgol yma yng Nghymru dros ein hamgylchedd. Da iawn i bob disgybl a gymerodd ran a llongyfarchiadau i Polly ac Ysgol Gynradd Pen-y-fro. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cerbydau ailgylchu ar eu newydd wedd ar strydoedd Abertawe!”
Meddai Catrin Palfrey, Rheolwr Ymgyrch Ailgylchu dros Gymru: “Roeddem yn hynod o falch o’r ymateb ardderchog gan ysgolion ledled y sir i Ymgyrch Ailgylchu Bwyd Abertawe. Diolch i bob ysgol a gynhaliodd y gwersi ac i’r holl ddisgyblion a ddyluniodd y posteri, roedd cymaint o gynigion rhagorol. Gobeithiwn fod yr ymgyrch wedi ysbrydoli disgyblion, yn ogystal â rhieni, gwarcheidwaid ac athrawon, i ddal ati i roi gwastraff bwyd yn eu cadis cegin er mwyn creu mwy o ynni adnewyddadwy ar gyfer Abertawe.”
Meddai Mark Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau’r Amgylchedd: “Mantais yr ymgyrch diweddaraf hwn yw y gallwn helpu plant ifanc iawn i ddeall manteision ailgylchu bwyd a sicrhau eu bod, wrth dyfu i fyny, yn gweld hyn fel rhywbeth cyffredin i’w wneud wrth gael gwared â gwastraff o’r cartref.
“Mae llawer o breswylwyr hefyd yn gwneud yn ardderchog wrth ailgylchu eu gwastraff bwyd. Rwy’n hyderus y bydd annog mwy o breswylwyr i ailgylchu eu gwastraff bwyd ynghyd â’r gwasanaethau ailgylchu ar ymyl y ffordd rydyn ni’n eu darparu, yn golygu y byddwn yn parhau i gwrdd â thargedau ailgylchu’r llywodraeth a thrwy wneud hynny, yn gwella ein hamgylchedd lleol.”
Gallwch weld mwy o bosteri a rhoi cynnig ar ‘Yr Electrogeneradur’ ar y wefan https://foodrecyclingmission.org.uk/swansea/