AILGYLCHWCH EICH BAGIAU TE! Mae ymgyrch newydd wedi darganfod bod llai na thraean (28%) myfyrwyr RhCT yn ailgylchu eu bagiau te, sy’n cyfrannu at y 6.3 miliwn o fagiau te nad yw myfyrwyr yn eu hailgylchu
Ailgylchu dros Gymru yn galw ar fyfyrwyr RhCT i wynebu’r her a helpu i wneud Cymru’r genedl orau yn y byd am ailgylchu
Datgelodd arolwg gan Ailgylchu dros Gymru o dros 5,000 o drigolion Rhondda Cynon Taf bod cyn lleied â thraean (28%) myfyrwyr yr ardal yn ailgylchu eu bagiau te.
Mae’r ffigur hwn yn llawer is na’r ffigur ar gyfer grwpiau eraill yn y gymuned. Dywedodd dros ddwy ran o dair o bobl nad ydynt mewn addysg wrth yr ymgyrch ailgylchu Cymru-gyfan eu bod yn ailgylchu eu bagiau te yn rheolaidd.
Yn ogystal â’r ffigurau ar gyfer RhCT, datgelodd Ailgylchu dros Gymru hefyd bod myfyrwyr yn gyfrifol am 6.3 miliwn o fagiau te sy’n osgoi’r bin ailgylchu yng Nghymru. Mae’r ymgyrch newydd #TEgylchu wedi lansio fideo ar-lein, ar gael i’w gwylio yma, a sbardunwyd yr ymgyrch ym mhrifysgolion Cymru gyda’r nod o herio myfyrwyr i ddilyn esiampl y cenedlaethau hŷn. Mae cymheiriaid hŷn myfyrwyr ar flaen y gad gydag ailgylchu bwyd, gydag 87% o bobl 65 mlwydd oed a hŷn yn dweud eu bod yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Gellir casglu ailgylchu bwyd o gartrefi ledled Rhondda Cynon Taf, ac mae cyfradd ailgylchu gyffredinol yr ardal yn rhagorol – mae’n ailgylchu 64% o’i wastraff. Fodd bynnag, mae Ailgylchu dros Gymru a’r cyngor yn gweithio i godi lefelau ailgylchu i 70% erbyn 2025 er mwyn gwireddu targedau Llywodraeth Cymru. I gyflawni hyn, mae cynyddu cyfranogiad myfyrwyr mewn ailgylchu bwyd yn allweddol.
Maeddai Angela Spiteri, Rheolwr Ymgyrch gydag Ailgylchu dros Gymru: "Nid yw ailgylchu bagiau te yn gorfod bod yn straen, ac mae’n un o’r ffyrdd hawsaf y gallwn ni oll wneud gwahaniaeth i gyfraddau ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf. Mae pawb yn mwynhau disgled, yn enwedig myfyrwyr sy’n cymryd seibiant o’u darlithoedd neu’n cael eu dos boreol o gaffein cyn mynd i ddarlith gynta’r diwrnod!
“Mae dros 128,000 o fyfyrwyr yn astudio yng Nghymru, a byddai’n wych pe bai pob un yn ailgylchu eu bagiau te ar ôl mwynhau disgled. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i helpu i gyflawni hyn. Mae disgled yno i’ch helpu i bweru eich diwrnod, a gall bag te wedi’i ailgylchu greu cryn dipyn o bŵer hefyd. Gallai cyn lleied â dau fag te wedi’i ailgylchu wefru eich ffôn clyfar yn llawn!”
Pe bai’r holl fagiau te sy’n cael eu taflu i’r bin gan fyfyrwyr Cymru bob blwyddyn yn cael eu hailgylchu, gallai gynhyrchu digon o drydan i bweru tŷ myfyriwr cyffredin am dros saith mlynedd – mwy na digon o amser i gwblhau cwrs gradd a chwrs gradd ôl-raddedig. Yn ogystal â hynny, gallai bagiau te wedi’u hailgylchu chwarae rôl bwysig yn adloniant myfyrwyr yn ystod eu hamser hamdden ym Mhrifysgol De Cymru – pe bai’r holl fagiau te sy’n mynd i’r bin, ac efallai’n mynd i dirlenwi, yn cael eu hailgylchu, gallai bweru set DJ yn ddi-baid am dros 15 mis, neu fand yn perfformio yn Cable’s Bar ar y campws am 16 mis a hanner.
Pam y dylem ailgylchu bagiau te?
Mae tua 153 miliwn o fagiau te yn cyrraedd safleoedd tirlenwi ledled Cymru, sy’n cyfrannu at greu methan, nwy tŷ gwydr. Yn RhCT, pan gaiff bagiau te ac unrhyw wastraff bwyd arall ei ailgylchu, caiff ei anfon i gyfleuster treulio anaerobig yn Aberdâr. Mae treulio anaerobig yn cynnwys torri’r bwyd i lawr yn naturiol i nwy methan a charbon deuocsid, ond yn lle dianc i’r atmosffer, defnyddir y nwyon hyn i gynhyrchu trydan. Gellir defnyddio’r trydan hwn i gynhesu a phweru cartrefi RhCT. Gall hefyd gynhyrchu gwrtaith i’w ddefnyddio mewn amaeth.
Aeth Angela Spiteri yn ei blaen i ddweud: “Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu ar hyn o bryd, ond mae wastad mwy y gellir ei wneud. Mae pawb yn creu rhywfaint o wastraff bwyd, waeth pa mor gydwybodol rydyn ni. O’r holl wastraff bwyd anochel rydyn ni’n ei greu, mae ailgylchu ein bagiau te yn ffordd rwydd o gael effaith enfawr ar gyfraddau ailgylchu Cymru, a gobeithio y gwnaiff ein helpu i gyrraedd brig y siartiau ailgylchu.”
Pwerwch eich bywyd coleg gyda bagiau te:
- Gwaith cwrs wedi’i bweru gan de: Gallai 36 o fagiau te wedi’u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i bweru cyfrifiadur am un awr.
- Trowch eich te yn danwydd i’ch ffôn! Gallai ailgylchu dau fag te gynhyrchu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn.
- Pwerwch y parti’r penwythnos hwn: Gallai ailgylchu un bag te a hanner gynhyrchu digon o bŵer i bweru pêl ddisgo am un awr.
- Eich dos o gaffein: Gallai ailgylchu chwe bag te gynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell am ddisgled arall.
I ddarganfod mwy, gwyliwch ein fideo am y nifer o fagiau te a ddefnyddiwn yng Nghymru a phwysigrwydd ailgylchu bagiau te: