Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Sut y caiff ei ailgylchu?
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Mae pobl ifanc yn allweddol i wneud Cymru’r wlad orau yn y byd am ailgylchu

Publication date:
12 Apr 2017

Cenhedlaeth y mileniwm sydd leiaf tebygol o ailgylchu gwastraff bwyd – pobl dros hanner cant oed yw arwyr ailgylchu Cymru

Canfu ein hymchwil diweddaraf mai pobl ifanc sydd leiaf tebygol o ailgylchu gwastraff bwyd.

Ar hyn o bryd, Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu yn ôl ymchwil annibynnol newydda, er gwaethaf y ffaith nad yw 43% o bobl 18–24 mlwydd oed a 34% o bobl 25–34 mlwydd oed yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, o’i gymharu â 5% o bobl 65 mlwydd oed a hŷn.b.

Mae tua thri chwarter ohonom yng Nghymru yn honni ein bod yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, ond pan ofynnom i’r rhai nad ydynt yn ailgylchu beth sy’n eu hatal rhag gwneud, y rhesymau mwyaf cyffredin oedd y byddai’n creu annibendod neu y byddai’n rhy ddrewllyd, neu nad ydynt yn credu eu bod yn cynhyrchu digon o wastraff bwyd i warantu’r ymdrech ailgylchu.

Mae llawer o’r 210,000 tunnell o wastraff bwyd o’r cartref yng Nghymru na chaiff ei ailgylchu yn cyrraedd safleoedd tirlenwi, sy’n cyfrannu at greu methan, nwy tŷ gwydr peryglus. Pe bai’r bwyd hwn yn cael ei ailgylchu, gellid rheoli’r methan a’i droi’n ynni i bweru cartrefi a chymunedau ledled Cymru. Er enghraifft, gallai cyn lleied â dau lond cadi bach o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru cartref cyffredin am dros 1 awr a hanner. Dysgwch sut.

Datgelodd ein hymchwil hefyd mai pobl sengl yw'r rhai mwyaf tebygol o roi bwyd yn y bin gwastraff – gydag 18% o gartrefi sengl yn cyfaddef mai anaml y maent yn ailgylchu bwyd, o'i gymharu â 7% o barau. Yng Nghymru, mae'n ymddangos mai menywod sy’n ennill y frwydr ailgylchu, gyda dim ond 10% o ferched cyfaddef eu bod yn rhoi eu gwastraff bwyd yn y bin yn hytrach na'r cadi, o'i gymharu â 16% o'r holl ddynion yng Nghymru

Edrychwch ar ein fideos, lle ceir dau o bobl Cymru yn rhannu eu cynghorion gorau ar gyfer ailgylchu bwyd, gan gynnwys cynghorion ar sut i gadw’ch cadi bwyd yn lân a diarogl. I ddysgu am eich gwasanaeth lleol ac i archebu bin gwastraff bwyd, cliciwch yma.

ahttp://resource.co/article/recycling-who-really-leads-world-11739 

bStatistics taken from WRAP Recycling Tracker Wales 

Dy wasanaeth lleol

Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.

Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol.

Archebu cadi a bin i’r tu allan


Cliciwch am wybodaeth
wales

Related websites

Ailgylchu Bwyd

Ailgylchu Bwyd Myfyrwyr

CYNNWYS CYSTYLLIEDIG

  • Canllaw cyfleus i ailgylchu bwyd
  • Dy wasanaeth ailgylchu bwyd lleol
  • Sut mae’n cael ei ailgylchu?



wr009_Bilingual.png

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Cymru yn Ailgylchu

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU