7 PETH NAD OEDDECH CHI’N GWYBOD Y GALL BANANA EI BWERU
Fedrwch chi wir bweru stadiwm gyda chroen banana? A sawl banana fyddai’n ei gymryd i wneud hynny?

Mae bananas yn sicr yn rhoi achos cryf dros fod yn un o’r ffrwythau gorau. Maen nhw’n ffynhonnell egni gwych, yn helpu i roi pŵer i’r ymennydd, yn blasu’n fendigedig gyda hufen iâ a hyd yn oed yn dod wedi’u lapio yn eu siwt eu hunain.
Rydym nawr yn darganfod rhagor o ffyrdd anarferol o ddefnyddio’n cyfaill melyn crom. Nid pweru pobl yn unig y maen nhw: gellir troi croen banana (yn ogystal â gwastraff bwyd arall) yn drydan i bweru pob mathau o bethau hynod.
Dyma 7 o’n ffefrynnau.
1. Llifoleuadau Stadiwm Principality
[[{"fid":"4254","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"1709","width":"2876","class":"media-element file-media-original"}}]]
Efallai bod misoedd tan Y Chwe Gwlad, ond wyddoch chi faint o grwyn banana wedi’u hailgylchu a fyddai ei angen i bweru’r llifoleuadau?
Maen nhw’n oleuadau LED, ac felly’n hynod o effeithlon, felly dim ond croen banana a fyddai’n ei gymryd i’w cadw ymlaen am awr gyfan.
2. Cawod gynnes braf
[[{"fid":"4260","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"235","width":"426","class":"media-element file-media-original"}}]]
Mae’n debyg ein bod ni oll yn edrych ’mlaen am gawod boeth ar ôl diwrnod caled yn y gwaith.
Mae pweru cawod gyda 10 munud o drydan yn gyfystyr â chyfanswm o 104 croen banana wedi’i ailgylchu.
3. Steilio’ch gwallt
[[{"fid":"4255","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"378","width":"500","class":"media-element file-media-original"}}]]
Os ydych chi’n mynd allan i fwynhau’ch hunan dros y penwythnos, mae sicrhau bod eich gwallt ar ei orau yn flaenoriaeth!
Byddai’n cymryd 30 croen banana i bweru’ch sychwr gwallt am 10 munud.
4. Paned gynnes ar ddiwrnod oer
[[{"fid":"4256","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"222","width":"500","class":"media-element file-media-original"}}]]
Bydd nifer ohonoch yn mynd am dro drwy’r hydref gan wneud y gorau o gefn gwlad prydferth Cymru. ’Does yr un peth gwell ar ôl bod am dro hir ar ddiwrnod oer yn yr hydref na phaned i gynhesu.
Dim ond wyth croen banana a fyddai ei angen i gynhyrchu digon o drydan i ferwi’r tegell i wneud rownd o baneidiau.
5. Pice ar y maen
[[{"fid":"4257","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"1810","width":"2716","class":"media-element file-media-original"}}]]
’Does yr un amser paned yn gyflawn heb bice ar y maen i fynd efo hi!
Byddai’n cymryd 67 croen banana wedi’i ailgylchu i bobi swp o bice ar y maen blasus.
6. Eich cartref am ddiwrnod
[[{"fid":"4258","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"225","width":"400","class":"media-element file-media-original"}}]]
P’un ai eich bod yn nyrsio pen tost ar ôl parti, neu’n dod at eich hunan ar ôl diwrnod allan bywiog, mae ddigon posib y byddwch eisiau diwrnod adref o dan flanced.
Gellir pweru tŷ cyffredin gyda thrydan am ddiwrnod cyfan gyda dim ond 761 croen banana wedi’i ailgylchu.
7. Castell Caerdydd
[[{"fid":"4259","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"512","width":"1052","class":"media-element file-media-original"}}]]
Bydd pob un o redwyr Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd y dydd Sul yma’n cael banana i’w cadw nhw i fynd wrth iddyn nhw herio’r cwrs 13.1 milltir. Un o’r tirnodau eiconig y byddan nhw’n rhedeg heibio iddynt yw Castell Caerdydd.
Pe bai pob rhedwr yn ailgylchu eu croen banana, byddai’n ddigon i bweru Castell Caerdydd gyda thrydan am 4.5 awr!
Pam na ddewch i ymweld â ni ym mhentref y rhedwyr?