Byw mewn llety myfyrwyr
5 syniad hawdd i fyfyrwyr ailgylchu
Mae myfyriwr cyffredin yn cynhyrchu 1.5 tunnell o sbwriel yn ystod cwrs gradd tair blynedd. Mae hynny’n llawer o wastraff. Gellir ailgylchu cyfran fawr ohono; rydym wedi llunio rhestr wirio i’ch helpu i ddechrau arni:
- Mae’n debygol y bydd gan eich tref newydd system ailgylchu sy’n wahanol i’r un yn nhŷ eich mam a’ch tad. Holwch eich landlord (Prifysgol neu breifat) am y system ailgylchu a gwnewch yn siwr eich bod yn dechrau ailgylchu wedi i chi symud i mewn. Os nad ydych yn siwr, beth am anfon neges trydar at eich cyngor neu eu ffonio i ddarganfod mwy (dolen i’ch ardal).
- Gwnewch yn siwr bod y bobl sy’n byw gyda chi yn ymwybodol o’r hyn y gellir/na ellir ei ailgylchu. Gofynnwch i’ch cyngor lleol am restr a’i roi ar y wal yn eich cegin gymunedol. Peidiwch ag anghofio, mae angen i chi dynnu sbwriel allan o finiau’r ystafelloedd gwely i sicrhau bod popeth sy’n gallu cael ei ailgylchu, yn cael ei ailgylchu.
- Gallwch arbed ychydig o arian trwy gael pethau a allai fod eu hangen arnoch ar gyfer eich llety myfyriwr newydd yn rhad ac am ddim o wefan fel freecycle, freegle a Gumtree. Mae siopau elusen hefyd yn lle da i gael dillad, dodrefn ac eitemau eraill ar gyfer y cartref.
- Gallwch leihau gwastraff bwyd a chostau a chymryd eich tro i goginio. Ewch i wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, i gael syniadau gwych ac awgrymiadau ar gyfer coginio prydau rhatach - mae hyd yn oed adran i fyfyrwyr sy’n cynnwys llawer o awgrymiadau
- Gellir ailgylchu poteli a chaniadau diodydd alcohol, a chaniau ffa pob. Rhowch nhw yn eich bagiau neu flychau ailgylchu ar ôl eu gorffen!
Pobl ifanc 18-24 oed yw’r bobl waethaf am ailgylchu. Peidiwch â bod yn rhan o’r ystadegyn hwn, a defnyddiwch eich gwasanaeth ailgylchu!
Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, darllenwch hwn!