Byw mewn fflat neu dy cymunedol

Mae ailgylchu’n bosibl ble bynnag rydych chi’n byw.
Mae gennym rai awgrymiadau gwych ynglŷn â sut gallwch ailgylchu os ydych yn byw mewn fflat neu dŷ cymunedol.
- Mae ailgylchu’n bosibl ble bynnag rydych chi’n byw. Mae gennym rai awgrymiadau gwych ynglŷn â sut gallwch ailgylchu os ydych yn byw mewn fflat neu dŷ cymunedol.
- Pan fyddwch yn rhentu oddi wrth landlord, gofynnwch pa gyfleusterau ailgylchu sydd ar gael, a pheidiwch â llofnodi eich cytundeb tenantiaeth hyd nes iddyn nhw roi’r offer ailgylchu priodol i chi. Gall eich landlord siarad â’ch cyngor a threfnu gwasanaeth ailgylchu ar eich cyfer cyn i chi symud i mewn.
Mae problem a rennir yn broblem wedi’i haneru - os ydych yn rhannu tŷ â chyfeillion, gwnewch yn siwr bod pawb yn cytuno i rannu eu deunydd ailgylchu i’w gasglu. Mae hyn yn golygu gofyn iddyn nhw wahanu eu gwastraff o finiau’r ystafelloedd gwely yn y bin ailgylchu canolog.
- Pan fyddwch yn symud i fflat neu dŷ a rennir, gwnewch yn siwr bod gennych allweddi ar gyfer unrhyw ardaloedd ailgylchu cymunedol sydd wedi’u cloi. Os nad oes gennych allweddi ar eu cyfer, gofynnwch i’ch landlord am rai.
- Os ydych newydd symud i’ch ardal, darganfyddwch pa wasanaethau ailgylchu mae eich cyngor yn eu cynnig. Anfonwch neges e-bost atynt neu eu ffonio. Byddant yn fwy na hapus i’ch rhoi ar ben y ffordd i ddechrau ailgylchu
- Os ydych o’r farn nad yw’r cyfleusterau ailgylchu yn ddigonol, yna gofynnwch i’ch landlord neu reolwr safle i’w gwella nhw. Os nad ydyn nhw’n gwybod bod problem, yna ni fyddan nhw’n gallu helpu.
- Beth am gasglu eich holl ddeunyddiau i’w hailgylchu mewn bag y gellir ei ailddefnyddio? Pan fydd yn llawn, ewch ag ef i’r banc ailgylchu, a rhowch yr eitemau unigol yn y mannau cywir. Bydd hyn yn eich helpu i arbed lle yn eich cegin, yn hytrach na chael llawer o gynwysyddion.
Gellir mynd ag unrhyw eitem na ellir ei hailgylchu o’ch fflat, i’ch canolfan ailgylchu agosaf.
- Cnociwch ar ddrws eich cymydog ar ôl i chi symud i mewn i gyflwyno eich hun a darganfod pa gyfleusterau ailgylchu sydd ar gael ac ymhle. Mae hefyd yn esgus gwych i ddod i’w hadnabod.