BYDD WYCH. AILGYLCHA: Ffeithiau difyr am ailgylchu Nadolig

Ffeithiau ailgylchu am Gymru:
Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff. Mae 94% ohonom yn ailgylchwyr rheolaidd yng Nghymru. Mae 84% yn credu bod eu hymdrechion ailgylchu’n werth chweil, wedi codi o 80% ym mis Mawrth 2020. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025 a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ac i ble mae’n mynd, gallwch fynd draw I wefan Fy Ailgylchu Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn.BYDD WYCH. AILGYLCHA: Ffeithiau difyr am ailgylchu
Ailgylchu bwyd:
Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol gyda thaclo newid hinsawdd.
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster prosesu arbennig ble caiff ei droi yn ynni adnewyddadwy;
Yr enw ar y broses o droi gwastraff bwyd yn ynni yw “treulio anaerobig”;
Mae POB cyngor yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd lleol i gasglu eich esgyrn twrci, crafion llysiau, plisg wyau, bagiau te a chrafion oddi ar eich platiau;
Mae 77% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd;
Gall ailgylchu 79 o fagiau te gynhyrchu digon o drydan i bweru sychwr gwallt am 10 munud;
Gall ailgylchu 1 croen banana greu digon o ynni i wefru 2 ffôn clyfar;
Gall llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr i gadw eich nwyddau Nadoligaidd yn ffres.
Ailgylchu metel a gwydr:
Gellir ailgylchu gwydr a metel ill dau dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio;
Mae ailgylchu 6 casys ffoil mins peis yn arbed digon o ynni i wylio EastEnders ar Ddydd Nadolig;
Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’;
Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli persawr/persawr eillio, diaroglydd, chwistrell gwallt ac erosolau gel eillio;
Mae ailgylchu 1 can diod gwag yn arbed digon o ynni i bweru cawod am fwy na 5 munud;
Gall ailgylchu 1 can erosol greu digon o ynni i bweru cawod am 8 munud;
Mae ailgylchu 1 botel win yn atal gwerth bron i 4,000 o geir o CO2 rhag mynd i’n hatmosffer.
Ailgylchu plastig:
Mae ailgylchu 1 botel hylif glanhau blastig yn arbed digon o ynni i bweru stereo cartref am 9 awr. Dyna ichi wledd o ganeuon Nadoligaidd!
Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir yn y cartref;
Mae 90% o bobl Cymru’n ailgylchu eu tybiau siocled plastig yn ystod y Nadolig;
Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli sebon dwylo, sebon corff, siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli swigod bath a photeli hylif glanhau plastig;
Mae 90% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 92% yn ailgylchu poteli diodydd plastig;
Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’;
Mae ailgylchu un botel siampŵ/cyflyrydd gwallt yn cynhyrchu digon o ynni i ferwi 2 degell;
Mae ailgylchu tair potel ddŵr 500ml yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud.
Ailgylchu cardfwrdd a phapur:
Yn ystod y Nadolig, defnyddiwn ddigon o ddeunydd pacio cardbord i orchuddio maes Stadiwm y Principality bron i 140,000 o weithiau;
Mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardfwrdd;
Mae’r cardfwrdd y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled;
Mae 1 tiwb papur toiled wedi’i ailgylchu’n arbed digon o ynni i wefru eich ffôn clyfar ddwywaith.
Bydd Wych. Ailgylcha.

ALLA' I EI AILGYLCHU...
Ydych chi am ailgylchu rywbeth? Cael gwybod beth i'w wneud gyda gwahanol eitemau.
DYSGWCH FWY
12 DYDD Y NADOLIG - FFEITHIAU A SYNIADAU AILGYLCHU
Dros gyfnod yr Ŵyl, rydyn ni’n creu mwy o wastraff nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. O’r bwyd ychwanegol rydym yn ei fwyta, i’r mynydd o ddeunydd pacio o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle gwych i ailgylchu popeth y gallwn gartref, a dyma ffeithiau ac ambell gyngor defnyddiol.
Dysgu mwy
BLE GALLA I AILGYLCHU?
Edrychwch beth allwch chi ei ailgylchu yn y cardtref a cyffiniau.
Dysgwch fwy