BYDD WYCH. AILGYLCHA: Ffeithiau difyr am ailgylchu

Ffeithiau ailgylchu am Gymru:
Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff. Mae 94% ohonom yn ailgylchwyr rheolaidd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025 a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ac i ble mae’n mynd, gallwch fynd draw i wefan Fy Ailgylchu Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn.BYDD WYCH. AILGYLCHA: Ffeithiau difyr am ailgylchu
Ailgylchu bwyd:
Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol gyda thaclo newid hinsawdd.
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster prosesu arbennig ble caiff ei droi yn ynni adnewyddadwy.
Yr enw ar y broses o droi gwastraff bwyd yn ynni yw “treulio anaerobig”.
Mae POB cyngor yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd lleol.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Gall ailgylchu 79 o fagiau te gynhyrchu digon o drydan i bweru sychwr gwallt am 10 munud.
Gall ailgylchu 1 croen banana greu digon o ynni i wefru 2 ffôn clyfar.
Gall llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr.
Ailgylchu metel a gwydr:
Gellir ailgylchu gwydr a metel ill dau dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio.
Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli persawr/persawr eillio, diaroglydd, chwistrell gwallt ac erosolau gel eillio.
Mae ailgylchu 1 can diod gwag yn arbed digon o ynni i bweru cawod am fwy na 5 munud.
Gall ailgylchu 1 can erosol greu digon o ynni i bweru cawod am 8 munud.
Mae ailgylchu 1 botel win yn atal gwerth bron i 4,000 o geir o CO2 rhag mynd i’n hatmosffer.
Ailgylchu plastig:
Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir yn y cartref.
Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli sebon dwylo, sebon corff, siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli swigod bath a photeli hylif glanhau plastig.
Mae 90% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 92% yn ailgylchu poteli diodydd plastig.
Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
Mae ailgylchu un botel hylif glanhau blastig yn arbed digon o ynni i wefru 6 iPad.
Mae ailgylchu un botel siampŵ/cyflyrydd gwallt yn cynhyrchu digon o ynni i ferwi 2 degell.
Mae ailgylchu tair potel ddŵr 500ml yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud.
Mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardfwrdd.
Mae’r cardfwrdd y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled.
Mae 1 tiwb papur toiled wedi’i ailgylchu’n arbed digon o ynni i wefru eich ffôn clyfar ddwywaith.
Ailgylchu cardfwrdd a phapur:
Bydd Wych. Ailgylcha.

Bydd Wych, Ailgylcha
Ailgylchu. Ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd, ond rydyn ni am ddal ati a chyrraedd y brig.
Ymuno â’r Ymgyrch Gwych
BYDD WYCH. AILGYLCHA. 8 GAIR O GYNGOR
Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig. Mae dinasyddion Cymru ar flaen y gad gyda’n hailgylchu gwych. A dweud y gwir, ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Dysga sut galli di wneud dy ran i’n helpu i gyrraedd rhif 1.
Dysgu mwy
BLE GALLA I AILGYLCHU?
Edrychwch beth allwch chi ei ailgylchu yn y cardtref a cyffiniau.
Dysgwch fwy