Bydd Wych. Ailgylcha.
BYDD WYCH
Ailgylcha

Mae Cymru’n genedl o Ailgylchwyr Gwych
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn malio am ein heffaith ar y blaned ac am fod yn ailgylchwyr da. Mae mwy na 90% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, gydag 80% ohonom yn ailgylchu mwy o eitemau eleni nag yn 2019. Oherwydd ein holl ymdrechion ni, Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu. Ond rydyn ni am ddal ati a chyrraedd y brig.
Mae bron i’n hanner ni yn dal i roi o leiaf un eitem yn y bin anghywir, felly mae mwy fyth y gallwn ei wneud. O wneud newidiadau bach, gallech wneud gwahaniaeth mawr a helpu Cymru i fod y genedl orau yn y byd am ailgylchu.
Ymunwch â’n hymgyrch gwych i gael Cymru i gyrraedd y brig trwy gymryd un o’r camau bach – ond gwych – canlynol.
1. Ailgylchu’ch holl wastraff bwyd
Yn cynnwys crafion ffrwythau a llysiau, bagiau te, gwaddodion coffi, plisg wyau a chrafion oddi ar eich plât. Cogydd enwog yn ymuno â chriwiau casglu i ddysgu sut mae gwastraff bwyd yn creu ynni.
2. Cofio am y caniau
Ailgylchwch ganiau erosol o bob ystafell. Beth i’w wneud gydag erosolau.
3. Dofi’r poteli siampŵ
Yn ogystal â photeli cyflyrydd gwallt, nwyddau glanhau, sebon dwylo a gel cawod. Dysgwch fwy am ailgylchu poteli plastig.

Cogydd enwog yn ymuno â’r criwiau casglu
Mae Matt Pritchard yn cefnogi ein Hymgyrch Gwych i gael Cymru i’r brig.
Dysgu mwy

BLE GALLA I AILGYLCHU?
Edrychwch beth allwch chi ei ailgylchu yn y cardtref a cyffiniau.
Dysgwch fwy