AILGYLCHWCH I GYNNAL CYMRU 2017
Sut gall bananas a photeli plastig helpu i gadw Cymru'n rhedeg?
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Run 4 Wales a Brecon Carreg ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd i ddathlu mai Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu, drwy ddatgelu’r cyfrinachau ynni sydd wrth wraidd poteli plastig a chrwyn bananas.
Allwch chi wir bweru Castell Caerdydd gyda photeli dŵr gwag? A sawl croen banana fyddai’n ei gymryd i wefru eich ffôn?
Mae ein Hymgyrch Rhedeg Ail-lenwi Ailgylchu yn datgelu’r cwbl.
Bydd y rhedwyr angen llawer o egni i weithio’u ffordd o gwmpas y cwrs, ond gall y pethau y maen nhw (a chithau) yn eu hailgylchu helpu i arbed a hyd yn oed creu ynni.
Tirnodau mwyaf eiconig Caerdydd
Mae cwrs 13 milltir yr Hanner Marathon yn cynnwys rhai o dirnodau mwyaf anhygoel Cymru. Pe bai pob rhedwr yn ailgylchu ei botel ddŵr, byddai’n arbed digon o ynni i bweru Castell Caerdydd am dros 2 diwrnod. Peidiwch ag anghofio bod modd ailgylchu poteli plastig o’r ystafell ymolchi, fel siampŵ, gel cawod a sebon dwylo, hefyd! Ailgylchu yn Hanner Marathon Caerdydd.
Pweru’ch hoff restr chwarae
Yw caneuon da yn rhan hanfodol o’ch rhaglen hyfforddi? Yna gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu eich crwyn bananas gan y gall yr ynni a gaiff ei greu helpu i sicrhau nad yw’ch ffôn yn rhedeg allan o ynni. Gallai ailgylchu un croen banana gynhyrchu digon o ynni i wefru eich ffôn clyfar ddwywaith!
Amser ymlacio
P’un a ydych chi’n gorffwys ar ôl bod allan yn rhedeg milltiroedd, neu’n rhoi eich traed i fyny ar ôl diwrnod caled o waith, gall eich ailgylchu bweru eich hoff gyfres deledu. Byddai 1 o botel dŵr wedi’u hailgylchu yn arbed digon o ynni i bweru eich teledu am bron i 1 awr. Mae hynny’n ddigon o amser i wylio pennod gyfan o Heno
Gwledda ar ôl y ras
Mae cinio poeth mawr yn rhan hanfodol o unrhyw ddydd Sul – p’un a ydych yn rhedeg y ras neu beidio. Gallai eich crafion ffrwythau a llysiau helpu i sicrhau bod y wledd yn barod erbyn amser cinio. Gallai 67 o grwyn banana wedi’u hailgylchu bweru popty’n ddigon hir i rostio coes cig oen Cymreig. Blasus iawn!
Sut gall ailgylchu gadw Cymru’n rhedeg?
Banana
Mewn nifer o lefydd yng Nghymru a’r DU, caiff crwyn banana eu cludo i gyfleuster prosesu arbennig i’w hailgylchu, a chânt eu troi’n ynni i bweru ein cartrefi, ein cymunedau lleol... a rhai o hoff dirnodau Cymru.
Photeli
Defnyddiwn hyd at 95% yn llai o ynni i wneud cynhyrchion allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu nag o ddeunyddiau crai. Gellir trawsnewid poteli plastig wedi’u hailgylchu yn bob math o bethau newydd gwych, fel crysau-t a chotiau cnu, yn ogystal â photeli newydd.
Pa fath o ailgylchwr ydych chi?
Lleolydd Ailgylchu
Cymru yw’r 3edd orau yn y byd a’r 2il orau yn Ewrop o ran ailgylchu. Helpwch ni i fod y gorau yn y byd drwy ailgylchu popeth y gallwch. Ansicr am unrhyw eitemau? Defnyddiwch ein Lleolydd Ailgylchu isod i ddarganfod popeth rydych angen ei wybod am yr hyn y gellir a’r hyn na ellir ei ailgylchu yn eich ardal chi.