Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU

A ydych chi angen diweddaru’r wybodaeth ailgylchu a gedwir yn ein Lleolydd Ailgylchu, ychwanegu lleoliad newydd neu eisiau gosod teclyn y Lleolydd Ailgylchu ar eich gwefan? Dysgwch sut isod.

 

Ychwanegu’r teclyn Lleolydd Ailgylchu i’ch gwefan

Mae’r teclyn Lleolydd Ailgylchu gan Ailgylchu Nawr ar gael i’w ddefnyddio ar wefannau trydydd parti dan drwydded. Gellir plannu’r teclyn ar un neu fwy o dudalennau gan ddefnyddio darn syml o god.  Gellir teilwra’r ffordd mae’n ymddangos i ddangos un lleoliad ailgylchu, fel Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, fel yr enghraifft yma, neu i ddangos lleoliadau ar gyfer ailgylchu un neu ddau o ddeunyddiau penodol, enghreifftiau yma ac yma, neu ffrwd ddeunyddiau sy’n cynnwys nifer o ddeunyddiau o’r un math, fel yr enghraifft yma. Mae hefyd ar gael yn Saesneg .

I ddysgu mwy neu i wneud cais i ddefnyddio’r teclyn, anfonwch ebost at: PartnerEnquiries@wrap.org.uk.

Diweddaru’r wybodaeth am ailgylchu ar ymyl y ffordd (ar gyfer Awdurdodau Lleol)

Rhoddir y data am ailgylchu ar ymyl y ffordd a ddangosir ar y Lleolydd Ailgylchu i WRAP gan awdurdodau lleol y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Ym mhob awdurdod lleol, mae person wedi’i enwi sy’n gyfrifol am ddiweddaru data am eu cynllun gan ddefnyddio’r adnodd Local Authority Recycling Scheme Updater. Gellir diweddaru data eich cynllun ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau i’ch gwasanaethau – bydd y newidiadau hyn yn diweddaru’r Lleolydd Ailgylchu. Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich person cyswllt chi, yna anfonwch ebost at la-recycling@wrap.org.uk.

Diweddaru gwybodaeth am ganolfannau ailgylchu/banciau danfon (ar gyfer Awdurdodau Lleol)

Rhoddir y data am ganolfannau ailgylchu a ‘chanolfannau danfon’ i Valpak gan awdurdodau lleol y Deyrnas Unedig trwy’r wefan Recycle-More. Rhennir yr wybodaeth hon gyda WRAP (dan drwydded) ac fe’i dangosir ar y Lleolydd Ailgylchu gan ddefnyddio ffrwd fyw. Bydd golygu’r data ar Recycle-More yn diweddaru’r Lleolydd Ailgylchu yn awtomatig. Gellir diweddaru’r data hwn ar unrhyw adeg trwy fewngofnodi i wefan Recycle-More. Os rydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, anfonwch ebost at y tîm Recycle-More, os gwelwch yn dda. 

Nid Awdurdod Lleol mo fy sefydliad i, ond mae gennyf leoliad ailgylchu neu ailddefnyddio yr hoffwn ei ychwanegu.

Gallwn dderbyn ceisiadau gan fudiadau eraill sydd â lleoliadau ailgylchu neu ailddefnyddio sy’n agored i’r cyhoedd. Am fwy o fanylion, anfonwch ebost at: PartnerEnquiries@wrap.org.uk.

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Lleolydd Ailgylchu

Er nad yw WRAP yn gorff sector cyhoeddus, mae hygyrchedd yn rhywbeth a gymerwn o ddifrif ac anelwn at fodloni safonau’r ddeddfwriaeth, ac yn benodol WCAG 2.0 a 2.1 AA, ac AAA ble mae’n bosibl.

Mae’r Lleolydd Ailgylchu’n bodloni’r safonau hyn, ac er mwyn eich cynorthwyo chi gyda’ch cydymffurfiaeth wrth ichi ddefnyddio’r teclyn, rydym wedi cyhoeddi datganiad hygyrchedd ar gyfer y Lleolydd Ailgylchu.

 

Lleoliad Ailgylchu

  • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU