Beth i'w wneud gyda
TELEDU A MONITORAU

Ble gallaf i ailgylchu? »
Dylai eich canolfan ailgylchu leol ailgylchu setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron. Fel arall, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a gofynnwch iddyn nhw a wnawn nhw ei gasglu o’ch tŷ - efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
A ellir eu hailddefnyddio?
- Os yw deunyddiau trydan yn dal i weithio, beth am eu hysbysebu ar wefannau fel Freecycle neu Gumtree. Bydd rhai siopau elusen yn derbyn nwyddau trydanol hefyd, cyn belled â bod ganddyn nhw ffordd i brofi bod yr eitemau’n ddiogel;
- Os oes gennych deledu neu gyfrifiadur sy’n dal i weithio, beth am ei roddi i ysgol neu sefydliad cymunedol lleol?
Alla’ i wneud unrhyw beth arall â nhw?
- Rhowch gynnig ar eu hysbysebu yn eich papur lleol, neuadd gymunedol neu swyddfa post;
- Mae llawer o elusennau’n gwneud defnydd o offer cyfrifiadurol dieisiau – edrychwch ar y rhyngrwyd.