Beth i'w wneud gyda
POTELI PLASTIG

Gan gynnwys: poteli glanedyddion; cyflyrydd ffabrig; poteli siampŵ; poteli cyflyrydd gwallt; poteli hylif glanhau; poteli canyddion; poteli llaeth; poteli sudd ffrwythau; poteli dŵr.
Ble gallaf i ailgylchu? »
Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n derbyn poteli plastig fel rhan o’u cynllun ailgylchu gwastraff y cartref, ond mae’n bwysig eich bod yn gwirio â nhwyn y lle cyntaf. Fel arall, gallwch fynd â nhw i’ch canolfan gwastraff y cartref ac ailgylchu leol.
Sut dylwn i ailgylchu poteli plastig?
- Rinsio/golchi’r poteli (yn ôl yr angen) gan ddefnyddio dŵr golchi llestri sydd dros ben;
- Eu gwasgu fel eu bod yn cymryd llai o le yn eich bin ailgylchu;
- Gwiriwch â’r cyngor a oes angen tynnu unrhyw gaeadau plastig;
- Tynnwch y sbardun plastig a’r ddyfais chwistrellu o boteli glanhau.