Beth i'w wneud gyda
POTELI NWY

Gall poteli nwy gael eu hail-lenwi i’w defnyddio eto a dylid eu dychwelyd i’r cyflenwr. Peidiwch â rhoi silindrau nwy yn eich bin sbwriel nac yn y cynhwysyddion yn eich canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol, oherwydd gallant ffrwydro os cânt eu gwasgu.
Bydd llawer o fanwerthwyr a chyflenwyr poteli nwy yn caniatáu i chi ddychwelyd eich potel nwy wedi ei chi ei defnyddio. Cânt eu hail-lenwi a’i defnyddio dro ar ôl tro.
Hefyd, gallech gysylltu â’ch cyngor lleol i weld a ydynt yn derbyn poteli nwy yn eich canolfan ailgylchu leol. Os ydynt yn eu derbyn, holwch y staff yn y ganolfan ailgylchu ynghylch lle y dylech eu rhoi er mwyn iddynt gael eu storio’n ddiogel cyn eu hailddefnyddio.