Beth i'w wneud gyda
PAPUR ARIAN

Ble gallaf i ailgylchu? »
- Gallwch fynd â ffoil i’ch canolfan ailgylchu leol. Mae rhai awdurdodau lleol yn casglu ffoil yn eich casgliad ar y garreg y drws. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ailgylchu’r rhain yn eich ardal
- Golchwch eich papur arian yn drylwyr cyn i chi ei ailgylchu;
- Os ydych chi’n casglu caniau diod fel rhan o gynllun 'Cash for Cans', gallech chi werthu papur alwminiwm a ddefnyddiwyd hefyd;
- Am fwy o wybodaeth am bapur arian, ewch i www.alupro.org.uk.
Yn ogystal â phapur arian, gallwch ailgylchu’r eitemau alwminiwm canlynol hefyd, fel arfer:
- Caniau diod;
- Topiau poteli llaeth;
- Hambyrddau barbeciw a hambyrddau rhewi;
- Papur arian sigarennau a thybaco;
- Caeadau sgriwio oddi ar boteli gwin.
Sut dylwn i ailgylchu papur arian?
Gwnewch y prawf gwasgu!
- Mae rhai deunyddiau pacio, fel pecynnau creision, sy’n gallu edrych fel papur alwminiwm ond sydd wedi’u gwneud o ffilm blastig wedi’i meteleiddio mewn gwirionedd. Nid yw’r math hwn o ddeunydd yn cael ei ailgylchu ar hyn o bryd, ac ni ddylech ei roi yn eich bin ailgylchu.
- Ffordd hawdd i ddarganfod a yw eitem wedi’i gwneud o bapur arian neu ffilm blastig wedi’i meteleiddio yw gwneud y prawf gwasgu. Gwasgwch yr eitem yn eich llaw – os yw’n aros yn ‘wasgedig’, papur arian ydyw a gallwch ei ailgylchu; os yw’n ‘ailagor’, mae’n debyg mai ffilm blastig wedi’i meteleiddio ydyw ac ni allwch ei ailgylchu.