Beth i'w wneud gyda
ORIORAU

Nid yw oriorau’n cael eu casglu fel rhan o’ch casgliad ailgylchu gwastraff y cartref, fel arfer. Fodd bynnag, yn aml bydd elusennau’n eu derbyn.
Isod, ceir rhai opsiynau ar gyfer sut i gael gwared ar eich oriorau diangen neu oriorau sydd wedi torri.
Pasiwch nhw ymlaen…
Sefydliadau cymunedol ac elusennau
- Mae llawer o elusennau’n derbyn oriorau (a gemwaith). Gellir eu hailgylchu neu eu hailwerthu i godi arian gwerthfawr. Gwiriwch y rhestr eitemau derbyniol ar fagiau elusennau’n gyntaf bob tro – maent yn amrywio’n fawr;
- Fel arall, mae sefydliadau ar-lein fel 'Recycling for good causes' yn derbyn gemwaith ac oriorau (ni waeth pa gyflwr sydd arnynt) trwy’r post i’w hailwerthu/hailgylchu i godi arian ar gyfer elusennau cenedlaethol a grwpiau lleol fel y Sgowtiaid a’r Brownis.
Ar-lein
Os ydynt yn gweithio’n dda:
- Gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau felFreecycle a Freegle;
- Neu gallwch eu gwerthu ar wefannau fel eBay a Gumtree.
Ar y stryd fawr
- Rhowch gynnig ar werthu eich gemwaith mewn siop gemydd neu siopau fel Cash Converters – yn enwedig os yw o ansawdd uchel neu’n frand poblogaidd;
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – efallai mai dyna’r union beth maent yn chwilio amdano!
- Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn;
- Hysbysebwch nhw yn eich papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau lleol.