Beth i'w wneud gyda
OLEW COGINIO

Ni ddylai olew coginio a saim gael eu tywallt i lawr y sinc oherwydd y gallant achosi rhwystr. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld a ydynt yn ei dderbyn yn y ganolfan ailgylchu leol. Efallai y byddant yn gwybod am sefydliadau lleol sy’n casglu olew coginio i’w drosi’n fiodanwydd hyd yn oed.
Awgrym: Chwiliwch am ‘ailgylchu olew coginio Cymru’ ar Google i ddarganfod pwy sy’n gweithredu gwasanaeth yn eich ardal chi.
Fel arall, ar gyfer ychydig bach o olew a sain (mae’n gweithio orau â braster solet fel bacwn/cig oed/cig eidion/cig moch ond nid olew hylif), beth am ei gymysgu â hadau adar mewn pot iogwrt gwag, ychwanegu ffon fach â darn o linyn yn sownd wrthi a’i roi yn yr oergell i galedu? Yna, gallwch ei hongian o goeden yn eich gardd i fwydo’r adar yn ystod y gaeaf.