Beth i'w wneud gyda
OFFERYNNAU CERDD

Daw offerynnau cerdd mewn cymaint o amrywiaeth o siapiau, meintiau a deunyddiau, mae’n anodd eu hailgylchu. Fodd bynnag, gall rhai offerynnau fod â darnau metel, er enghraifft, y gellir eu hailgylchu.
Fel arall, os ydynt mewn cyflwr da o hyd, ystyriwch yr opsiynau canlynol:
Pasiwch nhw ymlaen...
Elusennau
- Bydd rhai siopau elusen yn derbyn offerynnau cerdd a cherddoriaeth ddalen fel rhoddion.
Ar-lein
- Gallwch hysbysebu eitemau’n rhad ac am ddim ar wefannau fel Freecyclea Freegle;
- Neu gallwch eu gwerthu ar wefannau fel eBay a Gumtree.
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau – yn aml, gallant ddefnyddio’r pethau nad oes arnom eu hangen mwyach;
- Gwerthwch eitemau’n lleol mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ar gyfer eitemau sydd bron â bod yn newydd ac arwerthiannau moes a phryn;
- Hysbysebwch nhw yn eich papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau lleol.
Ailgylchwch nhw...
Daw offerynnau cerdd mewn cymaint o amrywiaeth o siapiau, meintiau a deunyddiau, mae’n anodd eu hailgylchu. Fodd bynnag, gall rhai offerynnau fod â darnau metel, er enghraifft, y gellir eu hailgylchu. Ni allwch ailgylchu offerynnau cerdd yn eich bin ailgylchu gwastraff y cartref, ond efallai y gallwch ailgylchu rhai darnau yn y ganolfan gwastraff ac ailgylchu leol. Os ydynt yn rhy anodd eu tynnu’n ddarnau, dylech eu rhoi yn eich bin sbwriel.