Beth i'w wneud gyda
NWYDDAU GWYNION

Os ydych chi’n amnewid eich oergell, rhewgell, popty, peiriant golchi neu beiriant golchi llestri, mae sawl ffordd y gallwch gael gwared arno/arni. Edrychwch ar rai o’r opsiynau isod...
Ble gallaf i ailgylchu?»
Os oes gennych chi eitem drydanol sydd mewn cyflwr da o hyd, ystyriwch yr opsiynau gwahanol:
Pasiwch nhw ymlaen...
Elusennau a sefydliadau ailddefnyddio;
- Gall eitemau trydanol gael eu rhoi i rai siopau elusen neu sefydliadau ailddefnyddio dodrefn – mae llawer ohonynt yn cynnig gwasanaethau casglu;
- Gwiriwch i weld a yw eich cyngor chi’n cynnig gwasanaeth ailddefnyddio.
Ar-lein
- Gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau felFreecycle a Freegle;
- Neu gallwch eu gwerthu ar wefannau fel eBay, Gumtree a Preloved;
Ffrindiau, perthnasau a digwyddiadau lleol
- Holwch ffrindiau a pherthnasau a hoffent gael eich eitemau trydanol diangen – efallai mai dyna’r union beth y maent yn chwilio amdano...
- Rhowch hysbyseb yn eich papur newydd lleol neu ffenestr siop
Os yw wedi torri…
- Gallai atgyweirio eitem ei hadnewyddu ac arbed arian i chi hefyd! Edrychwch ar-lein am gyngor ar sut i wneud atgyweiriadau syml, neu i weld a all fod yn syml ac yn rhad i arbenigwr ei wneud i chi. Er enghraifft, mae www.espares.co.uk a www.ifixit.com yn cynnig canllawiau i ddefnyddwyr ar sut i atgyweirio nwyddau gwynion.
Ailgylchwch nhw...
- Ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol neu gwiriwch a yw eich cyngor yn cynnig casgliad ailgylchu ar gyfer offer trydanol swmpus
- Yn aml, bydd siopau’n casglu eich eitemau trydanol diangen wrth iddynt gludo eich rhai newydd – yn enwedig eitemau mwy fel setiau teledu, oergelloedd a rhewgelloedd (sylwch y gall rhai manwerthwyr godi tâl am gasglu eich hen eitemau trydanol). Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf gan ddefnyddio’r lleolydd cod post.
Cynnwys cysylltiedig Oeddech chi’n gwybod...?
Yn ôl data swyddogol Asiantaeth yr Amgylchedd, ailgylchodd y DU dim ond traean o’r pwysau o nwyddau trydanol ag y prynodd y llynedd.