Skip to main content
English
English

Anadlyddion

Ailgylchu gartref

Na, ni ellir ailgylchu anadlyddion gartref yn eich ardal chi ar hyn o bryd.

Sut i ailgylchu anadlyddion

  • Dylai pob anadlydd, boed yr anadlydd yn wag neu’n llawn gael ei ddychwelyd i fferyllfa i gael ei waredu’n ddiogel;

  • Ni ddylid rhoi anadlyddion yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  • Mae cael gwared arnynt drwy dirlenwi’n niweidiol i’r amgylchedd yn nhermau gwastraffu deunyddiau ac o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr gan fod y nwy gweddilliol o’r anadlyddion yn cael ei ollwng i’r atmosffer.

Mae’n dda gwybod

  • Caiff oddeutu 73 miliwn o anadlyddion eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn* ;

  • Mae cael gwared ar anadlyddion drwy dirlenwi’n niweidiol i’r amgylchedd yn nhermau gwastraffu deunyddiau ac o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr gan fod y nwy gweddilliol o’r anadlyddion yn cael ei ollwng i’r atmosffer;

  • Pe byddai pob un sy’n defnyddio anadlyddion yn y Deyrnas Unedig yn dychwelyd pob un o’u hanadlyddion am un flwyddyn, gallai hyn arbed 512,330 o dunelli o CO2eq – yr un faint a char VW Golf yn cael ei yrru rownd y byd 88,606 o weithiau*.

* data ar ffeil gan GSK. Honiadau ailgylchu ac amgylcheddol y Deyrnas Unedig Gorffennaf 12.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon