Skip to main content
English
English

Dillad a Thecstilau

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Dillad a Thecstilau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu dillad a thecstilau dieisiau

  • Gwiriwch a yw eich cyngor lleol yn casglu dillad a thecstilau i’w hailgylchu. Rhaid i eitemau fod yn lân a sych, a dylid rhoi esgidiau mewn parau;

  • Os nad yw eich cyngor lleol yn casglu dillad a thecstilau i’w hailgylchu, gallwch ddanfon eich eitemau dieisiau i fannau ailgylchu a banciau dillad a thecstilau mewn meysydd parcio ac archfarchnadoedd lleol;

  • Gallwch roi eitemau i elusennau cofrestredig a mudiadau ailddefnyddio – mae rhai, fel y British Heart Foundation, yn cynnig gwasanaeth casglu o’ch cartref am ddim;

  • Os ydych chi’n codi arian i’ch ysgol, neu i sefydliadau fel y Girl Guides neu'r Sgowtiaid, mae yna gwmnïau tecstilau sy’n gallu trefnu casgliad i’ch helpu i godi arian at eich achos;

  • Mae llawer o fanwerthwyr ar y stryd fawr, fel Primark ac M&S yn cynnig banciau dillad yn eu siopau, a elwir weithiau’n ‘gynlluniau dychwelyd’.

Mae’n dda gwybod

Mae Dunelm yn gweithredu cynllun dychwelyd tecstilau yn rhai o’u siopau, a gallant dderbyn holl decstilau cartref glân yn cynnwys duvets, gobennydd, dillad gwely, tyweli, cyrtens, gorchuddion clustogau, wadin mewnol clustogau a chynfasau amddiffyn dillad gwely. Ewch i’w tudalen Cwestiynau Cyffredin am eu Cynllun Dychwelyd Tecstilau i weld eu rhestr o siopau sy’n cymryd rhan.

Gallwch ‘shwopio’ eich dillad ac ailgylchu eich bras gyda Marks and Spencer neu roi eich bras dieisiau i Bravissimo. Fel arall, gallwch holi eich siop elusen leol i weld a ydyn nhw’n derbyn bras dieisiau, neu gallwch ddefnyddio’r bagiau ailgylchu elusennol sy’n cael eu postio drwy’ch drws, ond ichi wirio’r rhestr o eitemau sydd i’w gael ar y bag i weld a ydyn nhw’n eu derbyn yn gyntaf.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon