Beth i'w wneud gyda
HIDLENNI DŴR

Ni ellir ailgylchu hidlenni dŵr fel rhan o’r cynllun casgliad ailgylchu nac mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio hidlen ddŵr brand BRITA, gallwch ailgylchu’r hidlenni a ddefnyddiwyd mewn rhai siopau Argos, Sainsbury’s, Tesco, Boots a Homebase, lle caiff blychau eu darparu i gasglu cetris a ddefnyddiwyd.
Chwiliwch am logo ailgylchu BRITA.
I ddod o hyd i’r siopa agosaf atoch sy’n rhan o’r cynllun ailgylchu, ewch i wefan BRITA.
Ar gyfer brandiau hidlenni dŵr eraill, cysylltwch â’r gwneuthurwr i ddarganfod a yw’n cynnig gwasanaeth tebyg. Os na all y gwneuthurwr eu derbyn, gallwch gael gwared ar hen hidlenni yn eich casgliad sbwriel arferol neu yn y cynhwysydd tirlenwi mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.