Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • Cartref
  • ALLA' I EI AILGYLCHU
    • EITEMAU BOBLOGAIDD
    • GWASTRAFF BWYD
    • PAPUR ARIAN
    • POTELI PLASTIG
    • EITEMAU TRYDANOL
    • DILLAD A THECSTILAU
    • POB EITEMAU
  • Lleoliad Ailgylchu
    • YNGLŶN Â’R LLEOLYDD AILGYLCHU
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Sut y caiff ei ailgylchu?
    • Pam ailgylchu?
    • Sut mae gwastraff bwyd yn cael ei throi i ynni
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
  • Ailgylchu yn fy ardal

Beth i'w wneud gyda

GWYDR

Clear glass jars

Ble gallaf i ailgylchu? »

Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o boteli a jariau gwydr.  Mae casgliadau ailgylchu’n amrywio ar draws y wlad, felly bydd angen i chi wirio a oes modd i chi roi eitemau gwydr yn eich bin ailgylchu neu b’un a fydd angen i chi fynd â nhw i’ch banc poteli lleol neu’r ganolfan ailgylchu.

Sut dylwn i ailgylchu gwydr?

  • bottles_jars_(no_recycle_logo)_(P)__en-120x180.jpg

    Dylai poteli a jariau gael eu rinsio i gael gwared ar unrhyw weddillion;
  • Gallwch roi topiau/caeadau metel yn ôl arnynt – bydd y rhain yn cael eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu.  Fodd bynnag, mae rhai cynghorau’n gofyn yn benodol i chi eu tynnu – os yw hynny’n wir yn eich ardal chi, dilynwch yr arweiniad hwn;
  • Dylai cyrc gael eu tynnu – gall cyrc naturiol gael eu compostio gartref;
  • Mewn banciau poteli, rhowch y gwydr yn y banc cywir ar gyfer gwydr clir, gwyrdd neu frown.  Rhowch wydr glas i mewn â gwydr gwyrdd
  • Defnyddiwch fanciau poteli yn ystod y dydd yn unig – gall sŵn poteli’n malurio gwneud andros o dwrw ac amharu ar bobl sy’n byw gerllaw!
  • Cofiwch beidio â gadael bagiau a photeli gwag o gwmpas y banc poteli.

Darganfyddwch fwy trwy wylio’r animeiddiad:

A oes unrhyw eitemau gwydr NA ALLAF eu hailgylchu?

Oes, mae’r eitemau hyn yn cynnwys:

  • Paenau ffenestri;
  • Bylbiau golau;
  • Llestr coginio gwydr fel Pyrex;
  • Eitemau trydanol gwydr.

Gallwch gael gwared ar yr eitemau hyn yn ofalus yn eich gwastraff y cartref/bin sbwriel.

Beth arall gallaf ei wneud ag ef?

Ei ddychwelyd!

  • Os oes modd dychwelyd potel, mae’n well gwneud hynny na’i hailgylchu.  Er enghraifft, os ydych chi’n cael poteli llaeth gan y dyn llaeth, gwnewch yn siwr ei fod yn eu cael yn ôl!

Alla’ i wneud unrhyw beth arall ag ef?

  • Gallwch ailddefnyddio hen jariau wrth wneud jamiau a siytni cartref;
  • Os ydych yn adnabod unrhyw un sy’n bragu ei win neu ei gwrw ei hun, rhowch eich poteli gwydr iddo.

Cynnwys cysylltiedig

Chwedl – Y Mynydd Gwydr

Widely recycled at recycling points_3.jpg

Mae gwydr yn berffaith i’w ailgylchu – gallwch ei ailgylchu’n boteli a jariau dro ar ôl tro, heb i’w eglurder ddirywio; a gall cynhyrchion gwydr ddefnyddio hyd at 90% o ddeunydd wedi’i ailgylchu.

Related pages

Alla' I ei ailgylchu

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Cymru yn Ailgylchu

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU