Beth i'w wneud gyda
GWASTRAFF YR ARDD

Ble gallaf i ailgylchu? »
Mae rhai cynghorau’n darparu bin arbennig ar gyfer gwastraff yr ardd ac yn ei gasglu fel rhan o’ch cynllun casglu o’r cartref. Os nad oes gennych chi’r math hwn o wasanaeth casglu neu os yw eich bin yn llawn, gallwch ailgylchu gwastraff yr ardd yn eich canolfan ailgylchu agosaf.
Sut dylwn i ailgylchu gwastraff yr ardd?
- Os yw eich cyngor yn darparu sach neu fin ar gyfer gwastraff yr ardd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau arbennig o ran yr hyn y gellir ei gynnwys ac na ellir ei gynnwys;
- Peidiwch â rhoi unrhyw eitemau eraill yn eich casgliad ailgylchu gwastraff yr ardd, oni bai bod eich cyngor yn dweud ei bod yn iawn i chi wneud hynny;
- Os byddwch yn mynd â gwastraff yr ardd i’ch canolfan ailgylchu leol, defnyddiwch fag gwydn, cryf (nid sach sbwriel ddu) a cheisiwch beidio â’i orlenwi. Mae’n llai tebygol o rwygo ac, wedi i chi ei wacáu, gallwch fynd ag ef yn ôl adref gyda chi yn barod i’w ddefnyddio’r tro nesaf!
Pam mynd ag ef o’ch gardd o gwbl?
- Mae compostio gartref yn ffordd hawdd i’w ailgylchu eich hun. Gweler ein tudalennau am wybodaeth fanylach.
Beth gallaf ei ailgylchu?
- Dail a blodau;
- Glaswellt a chwyn;
- Rhisgl coed a changhennau wedi’u tocio;
- Toriadau a brigau;
- Ffrwythau neu lysiau a dyfwyd gartref.