Beth i'w wneud gyda
GWASTRAFF BWYD

Ble gallaf i ailgylchu? »
Mae pob cyngor yng Nghymru yn cynnig casgliadau gwastraff bwyd ar wahân, mewn rhai anodd eu cyrraedd ardaloedd, gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ynghyd â gwastraff gardd.
Sut dylwn i ailgylchu gwastraff bwyd?
- Os yw eich awdurdod lleol wedi rhoi cadi cegin i chi i gasglu gwastraff bwyd, gallwch ailgylchu unrhyw sborion bwyd amrwd neu wedi’u coginio, fel arfer;
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu’r holl ddeunyddiau pacio oddi ar eich gwastraff bwyd, yn enwedig plastig.
Gall y gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu gael ei drin mewn sawl ffordd. Mewn rhai ardaloedd (lle caiff gwastraff bwyd a gwastraff yr ardd eu cymysgu â’i gilydd), yn aml caiff ei gompostio’n fasnachol mewn cyfleusterau lleol. Yna, caiff y compost hwn ei ddefnyddio mewn amaethyddiaeth, tirlunio a garddwriaeth. Lle caiff gwastraff bwyd ei gasglu ar wahân, caiff ei drin gan ddefnyddio dull o’r enw treulio anaerobig, fel arfer, sy’n cynhyrchu trydan gwyrdd. Os gwelwch yn dda gwyliwch y animeiddiad isod i gael trosolwg o'r broses:
Beth arall gallaf ei wneud ag ef?
Gwneud compost gartref...
Gallwch ychwanegu’r eitemau gwastraff bwyd canlynol at eich bin compostio cartref:
- Pilion, hadau a chalonnau ffrwythau a llysiau;
- Bagiau te;
- Mâl coffi a phapurau hidlo;
- Tywelion papur neu hancesi papur (nid os ydynt wedi dod i gysylltiad â chig);
- Plisg wyau.
Ni allwch gompostio: bwyd wedi’i goginio, pysgod, cig neu gynnyrch llaeth.
Sut ydw i’n cyfuno fy nghasgliad gwastraff bwyd a chompostio cartref?
I wneud yn siwr eich bod yn ailgylchu cymaint â phosibl o’ch gwastraff bwyd, mae’r ddau ddull yn gweithio’n effeithiol â’i gilydd.
- Gallwch roi cig, pysgod a chynnyrch llaeth, ynghyd ag unrhyw fwyd wedi’i goginio, yn eich casgliad gwastraff bwyd. Ni ddylai’r eitemau hyn gael eu compostio gartref gan y gallant ddenu ymwelwyr digroeso i’ch gardd;
- Gallwch gompostio’r holl bilion ffrwythau a llysiau gartref.