Beth i'w wneud gyda
FFOTOGRAFFAU

P’un a ydych wedi etifeddu swp o hen luniau neu’n tacluso, mae’n bwysig nad ydych yn rhoi eich hen ffotograffau a negatifau yn eich bin ailgylchu, oni bai eich bod wedi gwirio â’ch cyngor lleol ei bod yn iawn gwneud hynny. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, bydd gofyn i chi eu rhoi yn eich bin sbwriel.
Mae’n dibynnu ar y delweddau eu hunain, ond cyn i chi gael gwared arnynt, efallai yr hoffech ystyried rhai o’r opsiynau canlynol:
Pasiwch nhw ymlaen…
- A all y lluniau fod o ddiddordeb hanesyddol? Holwch eich cymdeithas hanes lleol i weld a allant fod yn ddefnyddiol i’w gwaith ymchwil;
- Beth am aelodau eraill o’ch teulu, yn enwedig rhai ifanc? Efallai y byddant o ddiddordeb iddynt yn y dyfodol…
- A ydynt yn lluniau o ffrindiau? Efallai yr hoffen nhw eu cadw;
- Gwiriwch yr hysbysebion mewn papurau newydd lleol – cadwch olwg am gyhoeddiadau fel “Mae eisiau eich hen luniau arnom”;
- Ewch ar-lein i weld a oes unrhyw ddiddordeb ar wefannau fel Freecycle aFreegle;
- Gwnewch ludwaith ohonynt.
Ynghylch ffotograffau a negatifau
Mae gan Kodak ddatganiad ar eu gwefan sy’n cynnig y cyngor canlynol:
Gellir adfer y ddau fath o sail ffilm fodern (asetad a pholyester), er na fydd y cyfleusterau i wneud hynny yn bodoli ym mhobman. Gall economeg y broses adfer, yn ogystal â’r effaith bosibl ar yr amgylchedd, wneud cludo ffilm wastraff dros bellteroedd hir yn anymarferol. Os nad yw’n bosibl adfer ffilm wedi’i dadariannu yn lleol, dylid cael gwared arni trwy ei llosgi trwy ddull sy’n adfer ynni. Os nad oes cyfleusterau llosgi addas ar gael, gellir cael gwared ar y gwastraff mewn safleoedd tirlenwi heb unrhyw berygl o effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd. Yn gyffredinol, ni ellir adfer papur ffotograffig gwastraff. Mae’r rhan fwyaf o bapurau wedi’u caenu â haen denau iawn o bolythen i reoli amsugniad dŵr ac er mwyn sychu’n gyflym, ac felly ni ddylid eu cymysgu â phapur gwastraff arall a fydd yn cael ei adfer yn y modd confensiynol. Dylid ond cael gwared â phapur ffotograffig trwy ddull llosgi sy’n adfer ynni. Os nad oes cyfleusterau llosgi addas ar gael, gellir cael gwared ar y gwastraff mewn safleoedd tirlenwi heb unrhyw berygl o effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd.