Skip to main content
English
English

Ffonau Symudol

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Ffonau Symudol mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu ffonau symudol

Gellir ailgylchu hyd at 80% o ffôn symudol, felly peidiwch â’i anfon i dirlenwi na’i adael yn y drôr – ailgylchwch ef!

Mae ffonau symudol yn cynnwys amryw o ddeunyddiau yn cynnwys metel, plastig a llawer o gydrannau gwerthfawr, fel arian, a gellir eu tynnu allan a’u hailddefnyddio. Mae nifer gynyddol o opsiynau ar gael ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio hen ffonau symudol.

  • Pan fyddwch chi’n prynu ffôn symudol newydd mewn siop, gofynnwch sut gallwch ailgylchu eich hen un;

  • Os yw eich ffôn dieisiau mewn cyflwr da, ac yn fodel rhesymol o ddiweddar, mae adwerthwyr ar-lein a siopau’r stryd fawr fel Cash Converters a CeX yn prynu nwyddau trydanol, yn enwedig os yw’r bocs, cebl gwefru a chyfarwyddiadau gwreiddiol gennych;

  • Mae’r rhan fwyaf o elusennau’n derbyn hen ffonau symudol, boed hwy’n gweithio ai peidio. Maen nhw’n gallu codi arian gwerthfawr drwy eu pasio ymlaen i gwmnïau ailgylchu ffonau symudol;

  • Gellir cael gwared ar ffonau symudol sydd wedi torri yn y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn y cynhwysydd ar gyfer nwyddau trydanol bach.

Mae’n dda gwybod

Cofiwch ddileu eich data personol er tawelwch meddwl

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich data personol wedi cael, neu am gael, ei ddileu oddi ar eich ffôn symudol. Gofalwch am eich data personol a lleihau’r risg y bydd rhywun arall yn ei ddefnyddio.

Mae gan y sefydliad defnyddwyr annibynnol Which? wybodaeth am sut i lanhau system ffôn neu dabled ddigidol Android a sut i lanhau system neu ailosod iPad neu iPhone.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon